Pan oeđ yr yd wedi cael ei fedi ac yn barod i gael ei gywain i’r ysgubor, yn sydyn ryw noswaith ỻosgwyd ef fel nad oeđ yr un dywysen na gweỻtyn i’w gael yn un man o’r caeau, ac nis gaỻasai neb fod wedi gosod yr yd ar dan ond Bendith y Mamau.
Fel ag y mae yn naturiol i ni feđwl teimlođ yr amaethwr yn fawr oherwyđ y tro, ac edifarhaođ yn ei galon đarfod iđo erioed wrando a gwneuthur yn ol cyfarwyđyd yr hen reibwraig, ac feỻy đwyn arno đigofaint a chasineb Bendith y Mamau.
Drannoeth i’r noswaith y ỻosgwyd yr yd fel yr oeđ yn arolygu y difrod achoswyd gan y tan, wele’r gwr bychan ag ydoeđ wedi ei gyfarfod ychydig o điwrnodau yn flaenorol yn ei gyfarfod eilwaith a chyda threm herfeiđiol pwyntiođ ei gleđyf ato gan đywedyd,
Nid yw ond dechreu.
Trođ gwyneb yr amaethwr cyn wynned a’r marmor, a safođ gan alw y gwr bychan yn ol, ond bu y còr yn hynod o wydn ac anewyỻysgar i droi ato, ond ar ol hir erfyn arno trođ yn ei ol gan ofyn yn sarrug beth yr oeđ yr amaethwr yn ei geisio, yr hwn a hysbysođ iđo ei fod yn berffaith fođlon i adael y caeau ỻe yr oeđ eu hoff ymgyrchfan i dyfu yn don eilwaith, a rhođi caniatad iđynt i đyfod iđynt pryd y dewisent, ond yn unig iđynt beidio dial eu ỻid yn mheỻach arno ef.
‘Na,’ oeđ yr atebiad penderfynol, ‘y mae gair y brenin wedi ei roi y byđ iđo ymđial arnat hyd eithaf ei aỻu ac nid oes dim un gaỻu ar wyneb y greadigaeth a bair iđo gael ei dynnu yn ol.’
Dechreuođ yr amaethwr wylo ar hyn, ond yn mhen ychydig hysbysođ y gwr bychan y byđai iđo ef siarad a’i bennaeth ar y mater, ac y cawsai efe wybod y canlyniad ond iđo đyfod i’w gyfarfod ef yn y fan honno amser machludiad haul drennyđ.
Ađawođ yr amaethwr đyfod i’w gyfarfod, a phan đaeth yr amser apwyntiedig o amgylch iđo i gyfarfod a’r bychan cafođ ef yno yn ei aros, ac hysbysođ iđo fod y pennaeth wedi ystyried ei gais yn đifrifol, ond gan fod ei air bob amser yn anghyfnewidiol y buasai y dialeđ bygythiedig yn rhwym o gymeryd ỻe ar y teulu, ond ar gyfrif ei edifeirwch ef na chawsai đigwyđ yn ei amser ef nac eiđo ei blant.
Llonyđođ hynny gryn lawer ar feđwl terfysglyd yr amaethwr, a dechreuođ Bendith y Mamau dalu eu hymweliadau a’r ỻe eilwaith a mynych y clywid sain eu cerđoriaeth felusber yn codi o’r caeau amgylchynol yn ystod y nos.