Pasiođ canrif heibio heb i’r dialeđ bygythiedig gael ei gyflawni, ac er fod teulu Pantannas yn cael eu hadgofio yn awr ac eilwaith, y buasai yn sicr o đigwyđ hwyr neu hwyrach, eto wrth hir glywed y waeđ,
Daw dial,
ymgynefinasant a hi nes eu bod yn barod i gredu na fuasai dim yn dyfod o’r bygythiad byth.
Yr oeđ etifeđ Pantannas yn caru a merch i dirfeđiannyđ cymydogaethol a breswyliai mewn tyđyn o’r enw Pen Craig Daf. Yr oeđ priodas y par dedwyđ i gymeryd ỻe yn mhen ychydig wythnosau ac ymđangosai rhieni y cwpl ieuanc yn hynod o fođlon i’r ymuniad teuluol ag oeđ ar gymeryd ỻe.
Yr oeđ yn amser y Nadolig—a thalođ y đarpar wraig ieuanc ymweliad a theulu ei darpar wr, ac yr oeđ yno wleđ o wyđ rostiedig yn baratoedig gogyfer a’r achlysur.
Eisteđai y cwmni ođeutu y tan i adrođ rhyw chwedlau difyrrus er mwyn pasio yr amser, pryd y cawsant eu dychrynu yn fawr gan lais treiđgar yn dyrchafu megis o wely yr afon yn gwaeđi
Daeth amser ymdïal.
Aethant oỻ aỻan i wrando a glywent y ỻeferyđ eilwaith, ond nid oeđ dim i’w glywed ond brochus drwst y dwfr wrth raiadru dros glogwyni aruthrol y cerwyni. Ond ni chawsant aros i wrando yn hir iawn cyn iđynt glywed yr un ỻeferyđ eilwaith yn dyrchafu i fyny yn uwch na swn y dwfr pan yn bwrlymu dros ysgwyđau y graig, ac yn gwaeđi,
Daeth yr amser.
Nis gaỻent đyfalu beth yr oeđ yn ei arwyđo, a chymaint ydoeđ eu braw a’u syndod fel nad aỻent lefaru yr un gair a’u gilyđ. Yn mhen ennyd dychwelasant i’r ty a chyn iđynt eisteđ credent yn đios fod yr adeilad yn cael ei ysgwyd iđ ei sylfeini gan ryw dwrf y tu aỻan. Pan yr oeđ yr oỻ wedi cael eu parlysio gan fraw, wele fenyw fechan yn gwneuthur ei hymđangosiad ar y bwrđ o’u blaen, yr hwn oeđ yn sefyỻ yn agos i’r ffenestr.