‘Beth yr wyt yn ei geisio yma, y peth bychan hagr?’ holai un o’r gwyđfodolion.

‘Nid oes gennyf unrhyw neges a thi, y gwr hir dafod,’ oeđ atebiad y fenyw fechan. ‘Ond yr wyf wedi cael fy anfon yma i adrođ rhyw bethau ag syđ ar đigwyđ i’r teulu hwn, a theulu araỻ o’r gymydogaeth ag a đichon fod o đyđordeb iđynt, ond gan i mi đerbyn y fath sarhad ođiar law y gwr du ag syđ yn eisteđ yn y cornel, ni fyđ i mi godi y ỻen ag oeđ yn cuđio y dyfodol aỻan o’u golwg.’

‘Atolwg os oes yn dy feđiant ryw wybodaeth parth dyfodol rhai o honom ag a fyđai yn đyđorol i ni gael ei glywed, dwg hi aỻan,’ ebai un araỻ o’r gwyđfodolion.

‘Na wnaf, ond yn unig hysbysu, fod calon gwyryf fel ỻong ar y traeth yn methu cyrraeđ y porthlad oherwyđ digalondid y pilot.’

A chyda ei bod yn ỻefaru y gair diweđaf diflannođ o’u gwyđ, na wyđai neb i ba le na pha fođ!

Drwy ystod ci hymweliad hi, peidiođ y waeđ a godasai o’r afon, ond yn fuan ar ol iđi điflannu, dechreuođ eilwaith a chyhoeđi

Daeth amser dial,

ac ni pheidiođ am hir amser. Yr oeđ y cynuỻiad wedi cael eu međiannu a gormod o fraw i fedru ỻefaru yr un gair, ac yr oeđ ỻen o bruđder yn daenedig dros wyneb pob un o honynt. Daeth amser iđynt i ymwahanu, ac aeth Rhyđerch y mab i hebrwng Gwerfyl ei gariadferch tua Phen Craig Daf, o ba siwrnai ni đychwelođ byth.

Cyn ymadael a’i fun dywedir iđynt dyngu bythol ffyđlondeb i’w gilyđ, pe heb weled y naiỻ y ỻaỻ byth ond hynny, ac nad oeđ dim a aỻai beri iđynt anghofio eu gilyđ.

Mae yn debygol i’r ỻanc Rhyđerch pan yn dychwelyd gartref gael ei hun ođifewn i un o gylchoeđ Bendith y Mamau, ac yna iđynt ei hud-đenu i mewn i un o’u hogofau yn Nharren y Cigfrain, ac yno y bu.