Y mae yn ỻawn bryd i ni droi ein gwynebau yn ol tua Phantannas a Phen Craig Daf. Yr oeđ rhieni y bachgen anffodus yn mron gwaỻgofi. Nid oeđ ganđynt yr un drychfeđwl i ba le i fyned i chwilio am dano, ac er chwilio yn mhob man a phob ỻe methwyd yn glir a dyfod o hyd iđo, na chael gair o’i hanes.
Ychydig i fyny yn y cwm mewn ogof danđaearol trigfannai hen feudwy oedrannus, yr hwn hefyd a ystyrrid yn đewin, o’r enw Gweiryđ. Aethant yn mhen ychydig wythnosau i ofyn iđo ef, a fedrai rođi iđynt ryw wybodaeth parthed i’w mab coỻedig—ond i ychydig bwrpas. Ni wnaeth yr hyn a adrođođ hwnnw wrthynt ond dyfnhau y clwyf a rhoi golwg fwy anobeithiol fyth ar yr amgylchiad. Ar ol iđynt ei hysbysu ynghylch ymđangosiad y fenyw fechan ynghyd a’r ỻais wylofus a glywsent yn dyrchafu o’r afon y nos yr aeth ar goỻ, hysbysođ efe iđynt mai y farn fygythiedig ar y teulu gan Fendith y Mamau oeđ wedi gođiweđid y ỻanc, ac nad oeđ o un diben iđynt feđwl cael ei weled byth mwyach! Ond feaỻai y gwnelai ei ymđangosiad yn mhen oesau, ond đim yn eu hamser hwy.
Pasiai yr amser heibio, a chwyđođ yr wythnosau i fisoeđ, a’r misoeđ i flynyđoeđ, a chasglwyd tad a mam Rhyđerch at eu tadau. Yr oeđ y ỻe o hyd yn parhau yr un, ond y preswylwyr yn newid yn barhaus, ac yr oeđ yr adgofion am ei goỻedigaeth yn darfod yn gyflym, ond er hynny yr oeđ un yn disgwyl ei đychweliad yn ol yn barhaus, ac yn gobeithio megis yn erbyn gobaith am gael ei weled eilwaith. Bob boreu gyda bod dorau y wawr yn ymagor dros gaerog fynyđoeđ y dwyrain gwelid hi bob tywyđ yn rhedeg i ben bryn bychan, a chyda ỻygaid yn orlawn o đagrau hiraethlon syỻai i bob cyfeiriad i edrych a ganfyđai ryw argoel fod ei hanwylyd yn dychwelyd; ond i đim pwrpas. Canol dyđ gwelid hi eilwaith yn yr un man, a phan ymgoỻai yr haul fel pelen eiriasgoch o dân dros y terfyngylch, yr oeđ hi yno.
Edrychai nes yn agos bod yn đaỻ, ac wylai ei henaid aỻan o đyđ i đyđ ar ol anwylđyn ei chalon. O’r diweđ aeth y rhai syđ yn edrych drwy y ffenestri i omeđ eu gwasanaeth iđi, ac yr oeđ y pren almon yn coroni ei phen a’i flagur gwyryfol, ond parhai hi i edrych, ond nid oeđ neb yn dod. Yn ỻawn o đyđiau ac yn aeđfed i’r beđ rhođwyd terfyn ar ei hoỻ obeithion a’i disgwyliadau gan angeu, a chludwyd ei gweđiỻion marwol i fynwent hen Gapel y Fan.
Pasiai blynyđoeđ heibio fel mwg, ac oesau fel cysgodion y boreu, ac nid oeđ neb yn fyw ag oeđ yn cofio Rhyđerch, ond adrođid ei goỻiad disymwyth yn aml. Dylasem fynegu na welwyd yr un o Fendith y Mamau ođeutu y gymydogaeth wedi ei goỻiad, a pheidiođ sain eu cerđoriaeth o’r nos honno aỻan.
Yr oeđ Rhyđerch wedi cael ei hud-đenu i fyned gyda Bendith y Mamau—ac aethant ag ef i ffwrđ i’w hogof. Ar ol iđo aros yno dros ychydig o điwrnodau fel y tybiai, gofynnođ am ganiatad i đychwelyd, yr hyn a rwyđ ganiatawyd iđo gan y brenin. Daeth aỻan o’r ogof, ac yr oeđ yn ganol dyđ braf, a’r haul yn ỻewyrchu ođiar fynwes ffurfafen đigwmwl. Cerđođ yn mlaen o Darren y Cigfrain hyd nes iđo đyfod i olwg Capel y Fan, ond gymaint oeđ ei syndod pan y gwelođ nad oeđ yr un capel yno! Pa le yr oeđ wedi bod, a pha faint o amser? Gyda theimladau cymysgedig cyfeiriođ ei gamrau tua Phen Craig Daf, cartref-le ei anwylyd, ond nid oeđ hi yno, ac nid oeđ yn adwaen yr un dyn ag oeđ yno chwaith. Ni fedrai gael gair o hanes ei gariad a chymerođ y rhai a breswylient yno mai gwaỻgofđyn ydoeđ.
Prysurođ eilwaith tua Phantannas, ac yr oeđ ei syndod yn fwy fyth yno! Nid oeđ yn adwaen yr un o honynt, ac ni wyđent hwythau đim am dano yntau. O’r diweđ daeth gwr y ty i fewn, ac yr oeđ hwnnw yn cofio clywed ei dad cu yn adrođ am lanc ag oeđ wedi myned yn đisymwyth i goỻ er ys peth cannoeđ o flynyđoeđ yn ol, ond na wyđai neb i ba le. Rywfođ neu gilyđ tarawođ gwr y tŷ ei ffon yn erbyn Rhyđerch, pa un a điflannođ mewn cawod o lwch, ac ni chlywyd air o son beth đaeth o hono mwyach.
‘In one of the centuries gone by, there lived a husbandman on the farm of Pantannas; and at that time the fairies used to pay frequent visits to several of the fields which belonged to him. He cherished in his bosom a considerable hatred for the “noisy, boisterous, and pernicious tribe,” as he called them, and often did he long to be able to discover some way to rid the place of them. At last he was told by an old witch that the way to get rid of them was easy enough, and that she would tell him how to attain what he so greatly wished, if he gave her one evening’s milking[37] on his farm, and one morning’s. He agreed to her conditions, and from her he received advice, which was to the effect that he was to plough all the fields where they had their favourite resorts, and that, if they found the green sward gone, they would take offence, and never return to trouble him with their visits to the spot.
‘The husbandman followed the advice to the letter, and his work was crowned with success. Not a single one of them was now to be seen about the fields, and, instead of the sound of their sweet music, which used to be always heard rising from the Coarse Meadow Land, the most complete silence now reigned over their favourite resort.