XIII.

Mr. Craigfryn Hughes has sent me another tale about the fairies: it has to do with the parish of Ỻanfabon, near the eastern border of Glamorganshire. Many traditions cluster round the church of Ỻanfabon, beginning with its supposed building by Saint Mabon, but which of the Mabons of Welsh legend he was, is not very certain. Not very far is a place called Pant y Dawns, or the Dance Hollow, in allusion to the visits paid to the spot by Bendith y Mamau, as the fairies are there called. In the same neighbourhood stand also the ruins of Casteỻ y Nos, or the Castle of the Night[22], which tradition represents as uninhabitable because it had been built of stones from Ỻanfabon Church, and on account of the ghosts that used to haunt it. However, one small portion of it was usually tenanted formerly by a ‘wise man’ or by a witch. In fact, the whole country round Ỻanfabon Church teemed with fairies, ghosts, and all kinds of uncanny creatures:—

Mewn amaethdy ag syđ yn aros yn y plwyf a elwir y Berth Gron, trigiannai gweđw ieuanc a’i phlentyn bychan. Yr oeđ wedi coỻi ei gwr, a’i hunig gysur yn ei hamđifadrwyđ a’i hunigrwyđ oeđ Gruff, ei mab. Yr oeđ ef yr amser hwn ođeutu tair blwyđ oed, ac yn blentyn braf ar ei oedran. Yr oeđ y plwyf, ar y pryd, yn orlawn o ‘Fendith y Mamau’; ac, ar amser ỻawn ỻoer, byđent yn cadw dynion yn effro a’u cerđoriaeth hyd doriad gwawr. Rhai hynod ar gyfrif eu hagrwch oeđ ‘Bendith’ Ỻanfabon, ac yr un mor hynod ar gyfrif eu castiau. Ỻadrata plant o’r caweỻau yn absenoldeb eu mamau, a denu dynion trwy eu swyno a cherđoriaeth i ryw gors afiach a diffaith, a ymđangosai yn gryn đifyrrwch iđynt. Nid rhyfeđ fod y mamau beunyđ ar eu gwyliadwriaeth rhag ofn coỻi eu plant. Yr oeđ y weđw o dan sylw yn hynod ofalus am ei mab, gymaint nes tynnu rhai o’r cymydogion i đywedyd wrthi ei bod yn rhy orofalus, ac y byđai i ryw anlwc orđiwes ei mab. Ond ni thalai unrhyw sylw i’w dywediadau. Ymđangosai fod ei hoỻ hyfrydwch a’i chysur ynghyd a’i gobeithion yn cydgyfarfod yn ei mab. Mođ bynnag, un diwrnod, clywođ ryw lais cwynfannus yn codi o gymydogaeth y beudy; a rhag bod rhywbeth wedi digwyđ i un o’r gwartheg rhedođ yn orwyỻt tuag yno, gan adael y drws heb ei gau, a’i mab bychan yn y ty. Ond pwy a fedr đesgrifio ei gofid ar ei gwaith yn dyfod i’r ty wrth weled eisiau ei mab? Chwiliođ bob man am dano, ond yn aflwyđiannus. Ođeutu machlud haul, wele lencyn bychan yn gwneuthur ei ymđangosiad o’i blaen, ac yn dywedyd, yn groyw, ‘Mam!’ Edrychođ y fam yn fanwl arno, a dywedođ o’r diweđ, ‘Nid fy mhlentyn i wyt ti!’ ‘Ië, yn sicr,’ atebai y bychan.

Nid ymđangosai y fam yn fođlon, na’i bod yn credu mai ei phlentyn hi ydoeđ. Yr oeđ rhywbeth yn sisial yn barhaus wrthi mai nid ei mab hi ydoeđ. Ond beth bynnag, bu gyda hi am flwyđyn gyfan, ac nid ymđangosai ei fod yn cynyđu dim, tra yr oeđ Gruff, ei mab hi, yn blentyn cynyđfawr iawn. Yr oeđ gwr bychan yn myned yn fwy hagr bob dyđ hefyd. O’r diweđ penderfynođ fyned at y ‘dyn hysbys,’ er cael rhyw wybodaeth a goleuni ar y mater. Yr oeđ yn digwyđ bod ar y pryd yn trigfannu yn Nghasteỻ y Nos, wr ag oeđ yn hynod ar gyfrif ei ymwybyđiaeth drwyadl o ‘gyfrinion y faỻ.’ Ar ol iđi osod ei hachos ger ei fron, ac yntau ei holi, sylwođ, ‘Crimbil ydyw, ac y mae dy blentyn di gyd a’r hen Fendith yn rhywle; ond i ti đilyn fy nghyfarwyđiadau i yn ffyđlon a manwl, fe adferir dy blentyn i ti yn fuan. Yn awr, ođeutu canol dyđ y foru, tor ŵy yn y canol, a thafl un hanner ymaith ođiwrthyt, a chadw y ỻaỻ yn dy law, a dechreu gymysg ei gynwysiad yn ol a blaen. Cofia fod y gwr bychan gerỻaw yn gwneuthur sylw o’r hyn ag a fyđi yn ei wneuthur. Ond cofia di a pheidio galw ei sylw—rhaid enniỻ ei sylw at y weithred heb ei alw: ac odid fawr na ofynna i ti beth fyđi yn ei wneuthur. A dywed wrtho mai cymysg pastai’r fedel yr wyt. A rho wybod i mi beth fyđ ei ateb.’

Dychwelođ y wraig, a thrannoeth dilynođ gyfarwyđyd y ‘dyn cynnil’ i’r ỻythyren. Yr oeđ y gwr bychan yn sefyỻ yn ei hymyl, ac yn sylwi arni yn fanwl. Ym mhen ychydig, gofynnođ, ‘Mam, beth ’i ch’i ’neuthur?’ ‘Cymysg pastai’r fedel, machgen i.’ ‘O feỻy. Mi glywais gan fy nhad, fe glywođ hwnnw gan ei dad, a hwnnw gan ei dad yntau, fod mesen cyn derwen, a derwen mewn dâr[23]; ond ni chlywais i na gweled neb yn un man yn cymysg pastai’r fedel mewn masgal ŵy iar.’ Sylwođ y wraig ei fod yn edrych yn hynod o sarug arni pan yn siarad, ac yr oeđ hynny yn ychwanegu at ei hagrwch, nes ei wneuthur yn wrthun i’r pen.

Y prydnawn hwnnw aeth y wraig at y ‘dyn cynnil’ er ei hysbysu o’r hyn a lefarwyd gan y còr. ‘O,’ ebai hwnnw, ‘un o’r hen frid ydyw!’ ‘Yn awr, byđ y ỻawn ỻoer nesaf ym mhen pedwar diwrnod; mae yn rhaid i ti fyned i ben y pedair heol syđ yn cydgyfarfod wrth ben Rhyd y Gloch; am đeuđeg o’r gloch y nos y byđ y ỻeuad yn ỻawn. Cofia guđio dy hun mewn man ag y cei lawn olwg ar bennau y croesffyrđ, ac os gweli rywbeth a bair i ti gynhyrfu, cofia fod yn ỻonyđ, ac ymatal rhag rhođi ffrwyn i’th deimladau, neu fe đistrywir y cynỻun, ac ni chei dy fab yn ol byth.’

Nis gwyđai y fam anffodus beth oeđ i’w đeaỻ wrth ystori ryfeđ y ‘dyn cynnil.’ Yr oeđ mewn cymaint o dywyỻwch ag erioed. O’r diweđ daeth yr amser i ben; ac ar yr awr apwyntiedig yr oeđ yn ymguđio yn ofalus tu cefn i lwyn mawr yn ymyl, o ba le y caffai olwg ar bob peth o gylch. Bu am hir amser yno yn gwylio heb đim i’w glywed na’i weled—dim ond distawrwyđ dwfn a phruđglwyfus yr hanner nos yn teyrnasu. O’r diweđ clywai sain cerđoriaeth yn dynesu ati o hirbeỻ. Nês, nês yr oeđ y sain felusber yn dyfod o hyd; a gwrandawai hithai gyda dyđordeb arni. Cyn hir yr oeđ yn ei hymyl, a deaỻođ mai gorymdaith o ‘Fendith y Mamau’ oeđynt yn myned i rywle. Yr oeđynt yn gannoeđ mewn rhif. Tua chanol yr orymdaith canfyđođ olygfa ag a drywanođ ei chalon, ac a berođ i’w gwaed sefyỻ yn ei rhedwelïau. Yn cerđed rhwng pedwar o’r ‘Bendith’ yr oeđ ei phlentyn bychan anwyl ei hun. Bu bron a ỻwyr anghofio ei hun, a ỻamu tuag ato er ei gipio ymaith ođiarnynt trwy drais os gaỻai. Ond pan ar neidio aỻan o’i hymguđfan i’r diben hwnnw međyliođ am gynghor y ‘dyn cynnil,’ sef y byđai i unrhyw gynhyrfiad o’i heiđo đistrywio y cwbl, ac na byđai iđi gael ei phlentyn yn ol byth.

Ar ol i’r orymdaith đirwyn i’r pen, ac i sain eu cerđoriaeth đistewi yn y peỻder, daeth aỻan o’i hymguđfan, gan gyfeirio ei chamrau tua ’i chartref. Os oeđ yn hiraethol o’r blaen ar ol ei mab, yr oeđ yn ỻawer mwy erbyn hyn; a’i hadgasrwyđ at y còr bychan oeđ yn hawlio ei fod yn fab iđi wedi cynyđu yn fawr iawn, waith yr oeđ yn sicr yn awr yn ei međwl mai un o’r hen frid ydoeđ. Nis gwyđai pa fođ i’w ođef am fynud yn hwy yn yr un ty a hi, chwaithach gođef iđo alw ‘mam’ arni hi. Ond beth bynnag, cafođ đigon o ras ataliol i ymđwyn yn weđaiđ at y gwr bychan hagr oeđ gyda hi yn y tŷ. Drannoeth aeth ar ei hunion at y ‘dyn cynnil’ i adrođ yr hyn yr oeđ wedi bod yn ỻygad dyst o hono y noson gynt, ac i ofyn am gyfarwyđyd peỻach. Yr oedd y ‘gwr cynnil’ yn ei disgwyl, ac ar ei gwaith yn dyfod i’r ty adnabyđođ wrthi ei bod wedi gweled rhywbeth oeđ wedi ei chyffroi. Adrođođ wrtho yr hyn ag oeđ wedi ei ganfod ar ben y croesffyrđ; ac wedi iđo glywed hynny, agorođ lyfr mawr ag oeđ ganđo, ac wedi hir syỻu arno hysbysođ hi ‘fod yn angenrheidiol iđi cyn cael ei phlentyn yn ol gael iâr đu heb un plufyn gwyn nac o un ỻiw araỻ arni, a’i ỻađ; ac ar ol ei ỻadd, ei gosod o flaen tan coed, pluf a chwbl, er ei phobi. Mor gynted ag y buasai yn ei gosod o flaen y tan, iđi gau pob twỻ a mynedfa yn yr adeilad ond un, a pheidio a dal sylw manwl ar ol y ‘crimbil,’ hyd nes byđai y iâr yn đigon, a’r pluf i syrthio ymaith oddiarni bob un, ac yna i edrych ym mha le yr oeđ ef.

Er mor rhyfeđ oeđ cyfarwyđyd y ‘gwr,’ penderfynođ ei gynnyg; a thrannoeth aeth i chwilio ym mhlith y ieir oeđ yno am un o’r desgrifiad angenrheidiol; ond er ei siomedigaeth methođ a chael yr un. Aeth o’r naiỻ ffermdy i’r ỻaỻ i chwilio, ond ymđangosai ffawd fel yn gwgu arni—waith methođ a chael yr un. Pan ym mron digaloni gan ei haflwyđiant daeth ar draws un mewn amaethdy yng nghwr y plwyf a phrynođ hi yn đioedi. Ar ol dychwelyd adref gosodođ y tan mewn trefn, a ỻađođ yr iâr, gan ei gosod o flaen y tan disglaer a losgai ar yr alch. Pan yn edrych arni yn pobi, anghofiođ y ‘crimbil’ yn hoỻol, ac yr oeđ wedi syrthio i rywfath o bruđlewyg, pryd y synnwyd hi gan sain cerđoriaeth y tu aỻan i’r ty, yn debyg i’r hyn a glywođ ychydig nosweithiau cyn hynny ar ben y croesffyrđ. Yr oeđ y pluf erbyn hyn wedi syrthio ymaith ođiar y iâr, ac erbyn edrych yr oeđ y ‘crimbil’ wedi diflannu. Edrychai y fam yn wyỻt o’i deutu, ac er ei ỻawenyđ clywai lais ei mab coỻedig yn galw arni y tu aỻan. Rhedođ i’w gyfarfod, gan ei gofleidio yn wresog; a phan ofynođ ym mha le yr oeđ wedi bod cyhyd, nid oeđ ganđo gyfrif yn y byd i’w rođi ond mai yn gwrando ar ganu hyfryd yr oeđ wedi bod. Yr oeđ yn deneu a threuliedig iawn ei weđ pan adferwyd ef. Dyna ystori ‘Y Plentyn Coỻedig.’