Transcribed from the 1909 Ab Owen edition by David Price, email ccx074@coventry.ac.uk
GWAITH ALUN
Rhagymadrodd.
Ganwyd John Blackwell (Alun) mewn bwthyn ger y Wyddgrug yn 1797. Un o Langwm oedd ei fam—gwraig ddarbodus a meddylgar; a dilynai ei mab hi i’r seiat a’r Ysgol Sul, gan hynodi ei hun fel dysgwr adnodau ac adroddwr emynau. Mwnwr call, dwys, distaw, oedd ei dad, a pheth gwaed Seisnig ynddo; cydymdeimlai yntau â’i fachgen.
Yn unarddeg oed, heb addysg ysgol ond yn awyddus am wybodaeth, prentisiwyd ef gyda chrydd oedd yn fardd. Pan yn ddwy ar bymtheg, wedi bwrw ei brentisiaeth, medrai fforddio prynnu llyfrau; a cherddai’n aml i Gaer i chwilio’r siopau. Derbyniai gylchgronau, prynnai lyfrau Cymraeg, chwiliai am feirdd. Llenorion yr ardal oedd ei gyfeillion, y gynghanedd ei hoffter.
Yn 1823 disgleiriodd fel seren yn awyr Eisteddfod Cymru. Yn Eisteddfodau Rhuthyn, Caerwys a’r Wyddgrug tynnodd sylw; gyda’i awdl Genedigaeth Iorwerth II. yn y gyntaf, a chyda’i awdl Maes Garmon yn yr olaf. Yr oedd ei fryd erbyn hyn ar gymeryd urddau eglwysig, a chafodd noddwyr caredig.
Yn 1824 aeth i’r Beriw, pentref hyfryd ger y fan yr abera afon Rhiw i afon Hafren. Yma dysgai Ladin a Groeg gyda’r ficer, y Parch. Thomas Richards. Yn y lle tawel Seisnig hwn, cymerodd ei awen edyn ysgafnach, cywreiniach. Clerigwyr pobtu’r Hafren oedd ei gyfeillion, ac yn eu mysg yr oedd Gwallter Mechain ac Ifor Ceri. Yma, at Eisteddfod y Trallwm, y cyfansoddodd ei draethawd gorchestol ar yr iaith Gymraeg.
Yn Rhagfyr, 1825, ymaelododd yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen; pasiodd ei arholiad gradd olaf ym Mai, 1828. Ymdrechodd yn galed; a’i fryd ar lwyddiant yn yr arholiadau, ar astudio llenyddiaeth Gymreig, ac ar ymbaratoi at waith pwysig ei fywyd. Gloewodd ei awen, a dysgodd felodi newydd, yng nghwmni Homer a Vergil.
Daeth adre at Eisteddfod Dinbych yn 1828; cafodd ynddi wobr am ei Farwnad Heber, a chynrychiolai ei gyd-efrydydd Ieuan Glan Geirionydd, trwy eistedd drosto yn y gader enillasai awdl Gwledd Belsasar.
Ionawr 15, 1829, ordeiniwyd Alun yn gurad Treffynnon. Bu yno, yn fawr ei barch fel gweinidog a llenor, hyd 1833, pryd y rhoddodd Arglwydd Brougham iddo fywoliaeth Maenor Deifi ym Mhenfro. Yn 1834 cychwynodd y Cylchgrawn, cylchgrawn gwybodaeth fuddiol, mewn rhyddiaith clasurol a phur. Yr oedd y Gwladgarwr eisoes ar y maes; a digiodd Alun ei gyfeillion, yn enwedig Ieuan Glan Geirionydd ac Erfyl, am wrth-ymgais. Ond ychydig elynion fu iddo. Yr oedd mor anhunangar a hael ei ysbryd, mor ddifyr a mwyn ei gwmni, mor bur ei fuchedd.
Bu farw Mai 19, 1840; a chladdwyd ef ym Maenor Deifi. Cyhoeddwyd ei waith yn 1851.
Eos Cymru oedd Alun,—yn felus a dwys yr erys ei nodau yng nghlust ei genedl.
OWEN M. EDWARDS.
Ebrill 9, 1909.
Cynhwysiad.
[Ceisiwyd trefnu’r darnau mor agos ag y gellid i’w trefn amseryddol.]
I. Y WYDDGRUG. 1797-1824.
Iddo Ef
Angau
Cymdeithas Caer
Dau Englyn Priodas
Genedigaeth Iorwerth II.
Cerdd Gwyliedydd y Wyddgrugr
Llwydd Groeg
Eisteddfod Caerwys
Dafydd Ionawr
Gwyl Ddewi
Eisteddfod y Wydderug
Rhywun
Maes Garmon
II. ABERIW. 1824.
Bywyd yn Aberiw
Ifor Ceri
Emyn Pasg
Englyn i Ofyddes
A Pha Le Mae? (Cyf.)
Eisteddfod y Trallwm
Caroline
Beddargraff
Bugeilgerdd
Yr Hen Amser Gynt
I —
Gadael Rhiw
III. RHYDYCHEN. 1825-1828.
At Gyfaill
College Life
At Lenor
Telyn Cymru
At ei Rieni
Cywydd y Gwahawdd
Disadvantages and Aims
Calvinism
At ei Fam, pan oedd Weddw
Cwyn ar ol Cyfaill
Marwolaeth Heber
Seren Bethlehem
IV. BLYNYDDOEDD ERAILL. 1828-1840.
At Manor Deifi
Cathl yr Eos
Abad-dy Tintern
Cân Gwraig y Pysgotwr
Y Ddeilen Grin
Y Darluniau.
ALUN
“Does destyn gwiw i’m cân,
Ond cariad f’ Arglwydd glân.”
COLOFN MAES GARMON—S. MAURICE JONES.
CARTREF MEBYD ALUN—S. MAURICE JONES.
CASTELL CONWY [{1a}]
“Ar furiau tref ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?”
MARATHON
“Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon”
CAERWYS [{1b}]
“Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.”
RHYWUN [{1c}]
“Gwyn ac oer yw eira Berwyn.”
UN O HEOLYDD CAERWYS
“Hawddamor bob gradd yma, orwych feirdd.”
YR AMSER GYNT [{1d}]
“Bu’n hoffi mi, wrth deithio ’mhell
Gael croesaw ar fy hynt.”
GWRAIG Y PYSGOTWR
“Dwndwr daear sydd yn darfod,
Cysga dithau ar dy dywod.”
Rhai Geiriau.
[Lle rhoddir yr esboniad yn Saesneg, dealler mai esboniad Alun ei hun yw hwnnw.]
Abred, ystad dadblygiad trwy gyfnod drwg anelwig i ddynoliaeth hapus; “treiglo abred,” mynd trwy holl dro trawsfudiad.
Arfeddyd, bwriad, amcan.
Balawg, uchel.
Brathawg, apt to stab, assassinating.
Breila, breilw, rhosyn.
Breyr, uchelwr, gwrda, barwn.
Callawr, crochan.
Deddyw, daeth.
Diachreth, di-gryn, cadarn.
Diarynaig, hero
Digrawn, llifol, heb gronni
Digyrrith, hael, caredig.
Dyheuent, gasping for breath.
Dyspaidiad, in the intermission.
Eiriach, cynhilo
Elwch, llawenydd, gorfoledd.
Enrhaith, fellows.
Ffladr, caruaidd, taer wenieithus, anwyl.
Fflwch, llawn; buan.
Gâlon, gelynion.
Germain, shout.
Gofynaig, cais.
Gorthaw, distawrwydd, amynedd.
Gwawrwalch, a valiant man, a hero.
Graid, fire, urgency.
Gryw, Greek.
Gwaladr, tywysog, rheolwr.
Gyrr, attack, onset.
Hadledd, dirywiad, dinistr.
Heng, gwth, taith orfod.
Hirell, gleams of light.
Huddug, tywyll, trist.
Hwi’n golofn, form into a column.
Loes gwefrawl, electrical shock.
Lleuai, read.
Main, meini.
Mwd, tan y to, nenfwd.
Nwyfre, awyr, nef.
Rhialyd, natur, greddf.
Rhom, rhyngom.
Sarllach, bost, bloddest.
Sawdan, Soldan, Sultan.
Sitwyr, rangers, freebooters.
ALUN.
“IDDO EF.”
Dat. i. 5.
’Does testun gwiw i’m cân
Ond cariad f’ Arglwydd glân
A’i farwol glwy;
Griddfanau Calfari,
Ac angau Iesu cu,
Yw nghân a mywyd i,
Hosanna mwy.
Paham bu i ddeddf y net
Ymaflyd ynddo EF,
A rhoi iddo glwy?
Fe roddwyd yn y drefn,
Fy meiau ar ei gefn;
Pwy na roi floedd drachefn—
Hosanna mwy.
Ergydiwyd ato EF,
Gan uffern, byd, a nef,
Eu saethau hwy:
Arhodd ei fwa’n gry’,
Nes maeddu uffern ddu,
A phrynu mywyd i,
Hosanna mwy.
Caniadau’r nefol gôr,
Sydd oll i’m Harglwydd Iôr
A’i ddwyfol glwy;
Y frwydr wedi troi,
Ellyllon wedi ffoi,—
Sy’n gwneyd i’r dyrfa roi
Hosanna mwy.
O faint ei gariad EF!
Nis gall holl ddoniau’r nef,
Ei dreiddio drwy:
Mae hyn i mi’n beth syn,
I ruddfan pen y bryn
Droi’n gân i mi fel hyn,
Hosanna mwy.
Pan ddelo’r plant ynghŷd,
O bedair rhan y byd,
I’w mangre hwy;
Tan obaith yn ddilyth,
Cael telyn yn eu plith,
I ganu heb gwyno byth,
Hosanna mwy.
Tra bwyf ar riwiau serth,
Preswylydd mawr y berth,
Rho’th gwmni trwy;
Mae cofio am y loes
Dan arw gur y groes,
Yn rhyw feluso f’oes,
Hosanna mwy.
Na ddigied neb o’r plant,
Am imi ganu ar dant
O’u telyn hwy:
Myfyrio’r tywydd du
Fu ar ein Iesu cu,
A droes fy nghân mor hy’,
Hosanna mwy.
ANGAU.
Englynion a ysgrifenwyd yn ddifyfyr ym mynwent y Wyddgrug.
“Ni foddir (mae’n rhyfeddol)—chwai angau,
A chyngor dymunol;
Er wban, griddfan greddfol,
(Uthr in’ yw!) ni thry yn ol.
Er gwaedd mam,—er gweddi myrdd,
Er gwên byd,—er gwyneb hardd,
Er swn cŵyn,—er seinio cerdd,
Er ing ffull, mynn angau’i ffordd.
Ni eiriach rai bach rhag bedd,—i’r cedyrn
Rhoir codwn i’r dyfn-fedd;
A mirain feibion mawredd
Ostyngir, siglir o’u sedd.
I’r llaid yr aeth fy nhaidiau,—i huno,
Fu’n heinyf er’s dyddiau:
I’r ystafell dywell dau,
Ryw funud, yr af innau.
Ond cael nod hynod, a hedd—yr Iesu,
A drws i dangnefedd;
Yn dawel yn y diwedd,
Af i gaban bychan bedd.
CYMDEITHAS GYMREIGYDDOL CAERLLEON.
Boed llwydd, mewn pob dull addas,—a chynnydd
I’ch enwog Gymdeithas;
Heb stwr, na chynnwr, na châs—
Geni beirdd heirdd fo’i hurddas.
Bu gannoedd drwy bob gweniaith,—addefent,
Am ddifa’r Omeriaith;
Aent hwy i lawr i fynwent laith—
I fyny safai’r fwyn-iaith.
Heddyw gwelaf na faidd gelyn—er gwŷn,
Roi gair yn ei herbyn;
A dolef gref sy’n dilyn,
“A lwyddo Duw, ni ludd dyn.”
Cur llawer fu Caerlleon,—y gw’radwydd
Sy’n gwrido hanesion;
Am groesi’r Clawdd hir i hon,
Brethid calonnau Brython.
’Nawr Cymry gant wisgant wên,
Chwarddu gânt a cherddi gwin,
Ceir bri, a chwmni, a chân,
O fewn Caer heb ofn y cwn.
Byw undeb, gyda bendith,—a daenir
O’ch doniawl athrylith:
Gelyn breg, rhwyg rheg rhagrith
I chwerwi’ch plaid, na chaer i’ch plith.
DAU ENGLYN
Ar Briodas Mr. P. Williams â Miss Whitley, Broncoed.
Gan Naf eiddunaf i’r ddau—bob undeb,
A bendith, a grasau,
I fyw’n hir, ac i fwynhau
Dedwyddwch hyd eu dyddiau.
Eirchion y gwaelion heb gelu,—pur rad
Parhaus fo’n defnynnu:
Pob urddawl ollawl allu
Iddyn’ ddel—medd Ioan Ddu.
Tach., 1812
GENEDIGAETH IORWERTH II.
Llais llid Iorwerth.
Clywch! clywch! ar hyd lannau Clwyd
Ryw swn oersyn o arswyd!
Gorthaw’r donn, cerdda’n llonydd,
Ust! y ffrwd,—pa sibrwd sydd?
O Ruddlan daw’r ireiddlef
Ar ael groch yr awel gref;
Geiriau yr euog Iorwerth,
O ’stafell y Castell certh;
Bryd a chorff yn ddiorffwys,—
Hunan-ymddiddan yn ddwys:
Clywch, o’r llys mewn dyrys dôn,
Draw’n sisial deyrn y Saeson,—
“Pa uffernol gamp ffyrnig?
A pha ryw aidd dewraidd dig?
Pa wrolwymp rialyd
Sy’n greddfu trwy Gymru ’gyd?
Bloeddiant, a llefant rhag llid,
Gawrwaeddant am deg ryddid,—
‘Doed chwerwder, blinder, i blaid
Ystryw anwar estroniaid;
Ein gwlad, a’n ffel wehelyth,—
Hyd Nef,’ yw eu bonllef byth;
Ac adsain main y mynydd,—
Och o’u swn!—yn gasach sydd;
‘Ein gwlad lân amhrisiadwy,’
Er neb, yw eu hateb hwy.
“Pa les yw fod im’ glod glân
Am arswydo’r mawr Sawdan,—
Pylu asteilch Palestin,
Baeddu Tyrciaid, bleiddiaid blin;
Troi Chalon wron i weryd,
Ie, curo beilch wyr y byd,—
Os Gwalia wen,—heb bennaeth,
A’i mawrion gwiwlon yn gaeth,—
Heb fur prawf,—heb farrau pres,
Na lleng o wyr, na llynges,—
A ymheria fy mawr-rwysg,
Heb fy nghyfri’n Rhi mewn rhwysg?
Er cweryl gyda’r cawri,
A lladd myrdd, nid llwydd i mi;
Ni fyddaf, na’m harfeddyd,
Ond gwatwor tra byddo’r byd.
“Ha! ymrwyfaf am ryfel,
O’m plaid llu o ddiafliaid ddêl:
Trowch ati’r trueni trwch,
Ellyllon! gwnewch oll allwch.
“I ti, O Angeu, heddyw y tyngaf,
Mai am ddialedd mwy y meddyliaf;
Eu holl filwyr, luyddwyr, a laddaf,
Un awr eu bywydau ni arbedaf;
Oes, gwerth, i hyn aberthaf,—gwânu hon
Drwy ei chalon fydd fy ymdrech olaf.
Dichell Iorwerth.
“Ha! ha! Frenin blin, i ble
Neidiodd dy siomgar nwyde?
Oferedd, am hadledd hon,
Imi fwrw myfyrion;
Haws fydd troi moelydd, i mi,
Arw aelgerth, draw i’r weilgi,
Nac i ostwng eu cestyll,
Crog hagr, sef y creigiau hyll.
“Oni ddichon i ddichell,
Na chledd na nych, lwyddo’n well?
Rhyw ddu fesur ddyfeisiaf,—
Pa ystryw ddwys, gyfrwys gaf?
Pa gais? pa ddyfais ddifêth
Gaiff y budd,—ac â pha beth?
“’Nawr cefais a wna r cyfan,—
Mae’r meddwl diddwl ar dân;
Fy nghalon drwy ’nwyfron naid,
A llawenydd ei llonaid;
Gwnaf Gymru uchel elwch,
I blygu, a llyfu’r llwch:—
I wyr fy llys, pa’nd hyspyswn
Wiw eiriau teg y bwriad hwn?”
A chanu’r gloch a wnai’r Glyw,
Ei ddiddig was a ddeddyw,—
“Fy ngwas, nac aros, dos di,
A rhed,” eb ei Fawrhydi,—
“Galw ar fyrr fy Mreyron,
Clifford hoew, Caerloew lon;
Mortimer yn funer fo,
A Warren, un diwyro.”
Deuent, ymostyngent hwy
I’w trethawr, at y trothwy:
O flaen gorsedd felenwawr
Safai, anerchai hwy’n awr,—
“Cyfeillion bron eich Brenin,
A’i ategau’r blwyddau blin,—
Galwyd chwi at eich gilydd
Am fater ar fyrder fydd;
Gwyddoch, wrth eu hagweddau,
Fod llu holl Gymru’n nacau
Ymostwng, er dim ystyr,
I’m hiau o gylch gyddfau’u gwyr;
Ni wna gair teg na garw,—
Gwên, na bâr,—llachar, na llw,
Ennill eu serch i’m perchi,
Na’u clod i’m hawdurdod i:
Ni fynnant Bôr, cynnor cain,
Ond o honynt eu hunain;
Ganedig bendefig da,
O’u lluoedd hwy a’u llywia:—
Ond cefais, dyfeisiais fodd,
O dan drais, i’w dwyn drosodd;
Ac i mi gwnant roddi rhaith,
Ac afraid pellach cyfraith;
Rhoi llyffeithair â gair gaf,—
Gair Gwalia gywir goeliaf:—
Yn rhywfodd, ni ddysgodd hon
Er lliaws, dorri llwon:
Elinôr, lawen araf,
Mewn amhorth yn gymorth gaf;
Mererid i’m Mreyron
I’w cais pur trwy’r antur hon.”
Traethai’r Brenin, gerwin, gau,
Ar redeg ei fwriadau;
A’r Cyngor wnai glodfori,
Mor ddoethwedd rhyfedd eu rhi,
A’i ddihafal rialyd,
Mewn truthiaith, gweniaith i gyd.
Yna’r arglwyddi unol
A gilient, nesent yn ol,
Gan grymu pen i’w Brenin,
Laig ei glod, a phlygu glin.
Ufudd-dod y Frenhines.
E geisiai frys negesydd
Yn barod, cyn darfod dydd,—
A gyrrai, ar farch gorwych,
I’r brif-ddinas y gwas gwych,
A gofynaig i’w Fanon,
A gair teg am gariad hon:
Y lonwech bur Elinawr
Serchog, oedd yn feichiog fawr;
Gofynnai a hwyliai hon,
Gryn yrfa, i Gaernarfon,
Ar fyrder, fod mater mawr
I’w ddisgwyl y dydd esgawr.
O fodd ufuddhaodd hon,
Iach enaid, heb achwynion;
Dechreuai’r faith daith, ’run dydd,
Mewn awch, a hi’n min echwydd;
Gwawl lloer, mewn duoer dywydd,
A’i t’wysai pan darfai dydd;
Oer y cai lawer cawod,
Cenllysg yn gymysg ag ôd;
Anturiai, rhodiai er hyn,
Trwy Gwalia, tir y gelyn;
Er ymgasgl bâr o’i hamgylch,
A’i chell yn fflamiau o’i chylch,—
Ni wnai hon ddigalonni,
Mor der oedd ei hyder hi;
(Ow! ow! ’n wir beri’r bwriad
Tra glew, er dinistrio gwlad:)—
Daeth, wrth deithio o fro i fryn,
Y faith yrfa i’w therfyn.
A’r deyrnes gynnes, heb gêl
Yn ddiegwan ddiogel;
Rhoes Iorwerth eres warant,—
Ae rhingyll i gestyll, gant,
Am alw cydymweliad
Brenin ac arglwyddi’n gwlad:
Rhuddlan oedd y fan i fod
Hygof erfai gyfarfod;
I dorri rhwystrau dyrys
Y gelwid, llunid y llys:—
D’ai’r eurfig bendefigion
O amryw le ’Nghymru lon;
Yno y daeth yn y dydd,
Gwalia o gwrr bwygilydd.
Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i’r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai â dwys galon,—
Heb gau ei amrantau ’mron,
I’w fanon wirion, arab,
Ar awr ferth, esgor ar fab.
Harddai y lle—rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych aeron—
Y dawnsiau a’r llefau llon:
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,—
Y glewion, enwogion wyr
Laddwyd, a’r prif luyddwyr:
Rhodient pan godai’r hedydd
Fel hyn, hyd i derfyn dydd;
A’u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni ddwedent ddim:
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth ofn brad,—
Swn, fal rhwng sisial a son,
“Llawrudd a chyllill hirion;”
’Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia’n ddirgelwch.
Geni Tywysog.
Wele! o’r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O Gaersalwg,—gwnai ei groesholi,—
Yna ei holl anian oedd yn llonni
Hyd grechwen, pan glywodd eni—bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.
Ac yna a’i udganwr
A’i gorn teg i gern y tŵr:
Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i’r gynghorfa.
Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai iddynt eiste
Bob yn lwyth—bawb yn ei le:
Deuai’r Ynad dirinwedd,
Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,
Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y dechreuai draith.
“Fy neges, brif enwogion,
A glywiau teg y wlad hon,—
Nid ydyw i wneyd adwyth,
Dwyn loesion llymion yn llwyth,—
I fygwth clwyf a gwaith cledd,
Nac i lunio celanedd;
Ond o fwriad adferu
Eich hyfawl barch fel y bu;
Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;
Un na’s trina es’roniaith,
Na swn gwag Seisonig iaith;
Fe’i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na’i falais, ni fedd;
Addefir ef yn ddifai,—
Ni ŵyr un fod arno fai:
Yn fwynaidd gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?”
* * * * *
Cydunent, atebent hwy,—
“Ymweledydd mawladwy,
I’n cenedl rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,—nis cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,
A gwae ei phobl, blyga’i phen:
Llîn ein llon D’wysogion sydd
’Leni mewn daear lonydd:
Rho di’r llyw cadarn arnom
A dedwydd beunydd y b’om:—
Enwa ’nawr, er union waith,
Y gwr del wisga’r dalaith,
’Nol cyfraith, fel b’o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr rhyngom:
Ie, tyngwn, at angau,
Yn bur i hwn gwnawn barhau.”
Fulion! ni wyddent falais,
Dichellion, na swynion Sais.
Dwedai’r blin Frenin ar frys—
“Felly ces fy ewyllys,
Doe y daeth, megis saeth, son
Yn erfai o Gaernarfon,
Fod mab rydd wynfyd i mi,
Nawdd anwyl, newydd eni;
A hwn fydd eich llywydd llon,
A’ch T’wysog enwog union:
Dal a wnaf, nes delo’n wr,
Drethi eich llywodraethwr;
Bellach, y bydd sarllach Sais,
Mawr ddilwrf Gymry ddeliais.”
Gwelwent, a safent yn syn,
Ymhleth ddiachreth ddychryn;
A phob boch oedd yn brochi,—
Tro’i brad aml lygad i li.
Araeth Madog.
Ebai Madog, enwog wr,—
“Ha! rymusaf ormeswr!
Tybiais falch wawrwalch lle’r êl,
Wir awch, yn wr rhy uchel,
I lochi brad dan lech bron,
A challawr i ddichellion:
Ond ni wnei gu Gymru’n gaeth,
Bro dirion, â bradwriaeth;
Ni phryni serch prid, didwyll,
Ac odiaeth hon, gyda thwyll:
Os gall dy frad ddwyn gwlad glau
I gur a chwerw garcharau,—
Nis gall dy ewin-gall wau
Rhwym a ddalio’r meddyliau:
A oedd cochi perthi’n pau,
A llawruddio’n holl raddau,—
Ein llyfrau, a’n gotau gwaith,—
A’n haneddau ni’n oddaith,
Y teryll aer,—torri llw,
A’r brad ger Aberedw,—
Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,
I ddangaws, i araws i oes wyrion,
Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion
Mai marwor meryw yw ystryw estron?
Ond am y wlad, deg-wlad hon,—gwybydd di,
Rhaid iti ei cholli, er dichellion.
“Os yw breg gwgus, a braw,
Fal wedi dal ein dwylaw,
Daw ail gynnwrf, dilwrf da,
I drigolion dewr Gwalia;
Codwn, arfogwn fagad,
O wrol wych wyr y wlad;
Mewn bâr y bonllefa’r llu
‘Camrwysg ni oddef Cymru,—
Rhi o’n huchel wehelyth,
Cymro boed i’r Cymry byth!’
Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin
Iau ar warr un o’r werin!
Daw’r telynau, mwythau myg,
Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;
Rhed awen, er id wahardd,
Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;
Gwnant glymau a rhwymau rhom,
Enynnant y tân ynnom;
Dibrin pawb oll dadebrant,—
Heb ochel, i ryfel ’r ant;
A’n mynwes yn lloches llid,
Ein harwyddair fydd ‘Rhyddid!’
“Ag arfau ni wna’n gorfod
Tra’n creigiau a’n bylchau’n bod;
Cariwn mewn cof trwy’r cweryl,
Y’mhob bwlch, am Thermopyl;
Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon;
Yn benaf llefwn beunydd,—
‘Marw neu roi Cymru’n rhydd?’
“Os colli’n gwlad, anfad wyd,
O’r diwedd dan ruddfan raid,—
Yn lle trefn, cei pob lle troed,
Wedi ei gochi â’n gwaed;
Trenga’n meibion dewrion dig,
A llawryf am y llurig.
“Yn enw Crist eneiniog—ymroddaf
Am ryddid ardderchog;
A’r un Crist fu ar bren crôg,
Ni ymedy a Madog.”
E daw ar hyn,—d’ai ar ol
Ryw ddistawrwydd ystyriol.
Ac Iorwerth, ar y geiriau,
Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;
Malais y Sais, echrys wg,
A welid yn ei olwg.
Tyb Euraid Ap Ifor.
O ryw fuddiol arfeddyd,—rhoi’n rhagor
Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,—
“Hyf agwrdd bendefigion,
Rhy brysur yw’r antur hon;
Ar furiau tref, ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?
Mae llid yn fy mron hynaws,
At Saeson, a’u troion traws;
Ond serch, a glywserch i’m gwlad,
O’m calon a rwyddlon red;
Na ato fyth, etwa fod
Neint hon yn gochion i gyd,—
Arafwn,—o’r tro rhyfedd
Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;
E ddaw ergyd ddiwyrgam,
Lawn cur, i ddial ein cam;
Ac hefyd dylid cofio,—
Er prudded, trymed y tro,—
Er angeu’r gair fu rhyngom,
’R amodau, rhwymau fu rho’m:
Pan roddo Gymro y gair,
Hwnnw erys yn wir-air;
Ei air fydd, beunydd heb ball,
Yn wir, fel llw un arall:
Ein hynys hon i estron aeth,
A chyfan o’n gwiw uchafiaeth;
Ond ni throes awch loes, na chledd,
Erioed mo ein hanrhydedd;
A’n hurddas a wnawn arddel,
Y dydd hwn, a doed a ddêl:
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,
Ar Dduw a’i wir addewid.
Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd, o’r hadledd hwn;
Heddyw, oedwn ddywedyd
Ein barn, yn gadarn i gyd;
Profwn beth dd’wed ein prif-fardd,—
Gwir iawn bwyll yw geiriau’n bardd;—
Pa lwyddiant, yn nhŷb Bleddyn,
A ddigwydd o herwydd hyn?”
Amneidient mewn munudyn
Ar yr ethol ddoniol ddyn,—
Yna, a phwys ar ben ei ffon,
Y gwelid y gwr gwiwlon:
Ei farf fel glân arian oedd,—mewn urddas,
Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;
Yn null beirdd, enillai barch,—ar bob peth
E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.
Proffwydoliaeth Bleddyn.
D’wedai, agorai’r gwir-air,—
“Clyw frenin gerwin, y gair!
’R hyn ddaw, trwy fy llaw i’r llŷs,
Duw y dynged a’i dengys;
Am ennyn aer mwy na neb,
Troi a chynnal trychineb,
Gwneyd ochain yn seilfain sedd,—
Rhoi dy wersyll ar d’orsedd!
Am ddifrodi, llosgi, lladd,
Brad amlwg, a brwd ymladd;
A rhoi bro, mewn taro tynn,
I wylo am Lywelyn:—
(Iachawdwr a braich ydoedd,
Ac anadl ein cenedl oedd;)
Fel y rhoist gûr, mesur maith,
Y telir i ti eilwaith.
O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,
Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.
Hwn geraist yn lle gwirawd,—
Bleiddiaid sy’n ffoi rhag cnoi cnawd.
Y mae maith och mam a thad,
Gwaedd a chur gweddw a chariad,—
A main lle mae ymenydd
Llawer dewr, a gollai’r dydd,—
Temlau, ac aneddau’n wag,
Yn rhoi manwl air mynag,—
I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,—
Iddo gael buddugoliaeth:
Ond llion mawrion am hyn
O ddialedd a ddilyn.
“Awr na feddyli, daw’r nef ddialydd,
Dy waed oera ar dywod y Werydd;
Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,
Hon a’th boena—gyrr ddrain i’th obenydd;
Caiff Brython gwirion dan gerydd—fyw’n llon,
Eu muriau’n llawnion, a marw’n llonydd.
“A gwaeth nac oll a wnaethost,
Mewn du fâr mynni dy fost,—
Gwenaist pan gwelaist galon
Wiw a phur ar waew-ffon!
Ti ddigred, ni roist ddeigryn
Yn y lle yr wylwyd llyn!
Llanwaist gron goron â gwaed,
Ac arall ŷf y gorwaed!
Clyw’n sŵn!—mwd Bercley’n seinio, [{26}]
Dychryn i’w ganlyn ac O!
Marwol loesion bron Brenin,
Tan grafangau bleiddiau blin.
Hyfryd dduwiesau Hafren,
Pan glywant a wisgant wên.
Daw blwyddau llid a bloeddiad,
Du hin, ar warthaf dy had!
Clyw! ddolefau, briwiau bron,
O’r Tŵr Gwyn [{27}] mae’r taer gwynion;
Dy hilion, mewn du alaeth,
O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!
A mynych gwna cromeni
Y Tŵr cras watwor eu cri:
Ni adewir o’r diwedd
Wr o dy sil ar dy sedd.
“Ha! ha! ’r dwyrain egyr ei dorau,—
Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau
Creigydd, moelydd, a du gymylau?
Nage, gwawrddydd glân, eirian oriau,
Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;
Gwelwch Gymru ar fynydd golau,
A’n iach wyrion o’i chylch yn chwarau,
(Rhos sy’ o danynt ar sidanau,)
Hust! ust! ust!—mae’n dyfod i’m clustiau,
Gathl enwog oddiar ei thelynau,—
Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,
Yn dorf bloeddiant,—‘Wi! darfu blwyddau
Yr ochain anwar a chynhennau;’—
Par y dôn i’m hyspryd innau—roi llam,
Mwy e grychneidia’m gorwych nwydau.
“Daw dyddiau mâd a diddan,
A mawr lwydd i Gymru lân;
Dyddiau bwrcaswyd iddi,
Ar dy ddichell dywell di;
O Dduw Ner daw’r hoewder hwn,
I’n Duw eilchwyl diolchwn:
Derfydd amser blyngder blin,
Curaw tymhestlog gerwin.
Daw hinon a daioni
O dy drais, na’s tybiaist ti;
Bydd cof mewn gwledd am heddyw,
A chlod am it’ fod yn fyw:
Iach amrant Lloegr a Chymru,
Daw’r ddwy-wlad mewn cariad cu;
Yna’n y ddwy mwy ni ddêl,
I’w trefi helynt rhyfel;
Un llys fydd drwy’n hynys hon,
Una’i gwyr dan un goron;
Unant nerth, rhag rhyferthwy,
Un reddf ac un ddeddf i’r ddwy;
Un Duw arnynt, un deyrnas,
Un lluoedd, un floedd, un flas:
Gwelaf Frython, [{28}]—’rwy’n llonni,
Yn eistedd ar d’orsedd di!
Ac o ystlys a gwestle,
Y gyllell hir gyll ei lle:
A o gof ymladdau gant,
Eu hing hefyd anghofiant;
Cant gyd-fwynhau breintiau braf,
Law-law i’r genedl olaf:
Lle gwelwyd twyll a galar,
Echrys boen, a chroes a bâr,—
Rhinwedd welir a hinon,
Gwenau, a bonllefau llon;
Rhyfela dry’n orfoledd,
Screchiadau yn hymnau hedd.
Ar eirian fro Eryri,
Ei chreigiau a’i hochrau hi,—
Lle mae trigfa’r bâr yn bod,
A dwyn arfau dan orfod;—
Lle gwelir llu y gelyn,
A’u bloedd hell, y blwyddau hyn,—
Anhirion elynion lu,
A’u tariannau’n terwynu;—
Anianawl serch yn ennyn,
A ffoi at y gwaew-ffyn;—
Tyf breilos, a rhos di-ri’,
Ar hon, a’r loew lili;
Eos fydd bob dydd yn dod
I fryn, yn lle cigfranod:
“Ar y llethri a’r tyli telaid,
Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,
Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,
Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,
Llamsach ŵyn bach yn ddibaid,—mor ddifyr,
Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.
“Lle codwyd bwyeill cedyrn,
Bydd twmpathau chwarau chwyrn;
Dawnsio pan y darffo y dydd,
A thelyn ar frith ddolydd:
I’n hynys, pan ei hunir,
Daw tawelwch, heddwch hir;
A chywir heddwch a rhyddid
Wneir y dydd hwnnw yn aur did;
Ar wddwf Cymru rhoddir
Y gadwen hon i gadw’n hir;
Y drefn gaeth wriogaethol,
Mwya’i nerth, a i ddim yn ol;
Bydd un gyfraith, ’run rhaith rhawg,
I lwyth isel, a Th’wysawg:
Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,
Ri’r gwlith, yn eu plith o’u plaid;
Colofnau y breintiau bras,
A chadarn-weilch y deyrnas;
Ar bob mater a cherydd,
Rheithwyr yn farnwyr a fydd:
’R un fro wnaeth gwyar yn frith,
O dda gynnyrch ddwg wenith;
Cod yr amaeth, cydia’i rwymau,
Cain reolau, cyn yr haulwen;
Deil waith odiaeth, dôl a thidau,
Iau a bachau lle bo ychen;
Teifl yr hadau,—llusga’r ogau,
Egyr ddorau gwâr ddaearen,
Er cael cnydiau, yn eu prydiau,
Rhag i eisiau rwygo asen.
“Esmwytho nos amaethydd,
Heddwch, diofalwch fydd,—
Y daw gelyn digwilydd
I’r berllan, na’r ydlan rydd;
Ac ni raid braw daw un dydd,
Ryw ormeswr i’r maesydd,
Neu Fodur cryf i fedi
’Nol anferth drafferth i drin:
Tybia’i wlad yn Baradwys,—
Dyry gainc wrth dorri’i gwys
A swch fuasai awchus
Gleddyf un dewr hyf di-rus;
Ymaith ar unwaith yr a,
Uwch ei boen y chwibiana.
“Ac anterth cymer gyntun,
Heb i ofal atal hun;
O hyd yn ddiwyd ddiarf
Heb fod dan orfod dwyn arf
Heb elynion o Gonwy
O fewn maes i’w hofni mwy.
“A thew ffrwyth âr
Gwnna’n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a mynydd,
A bronydd, yn dir braenar.
“Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli’r Iôn union wnant;
Rhont glodydd i’w Dofydd da,
Law-law mewn Haleluia:
“Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion meithion môr,
Daear, a’i sail, hyd i’r sêr.
“Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel:
Eu rhyfedd faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi’r maes hagr asw,
I antur lân Waterlw:
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd.”
Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
“Y nefol Iôr wna fel hyn,
Foreu tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o’r ddichell erchyll:
Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i’n pebyll.”
CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.
Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A’r tymhorau bob yr un,—
Yn eu dull yn dwys bregethu—
“Derfydd dyddiau byrion dyn.”
Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,
Alwai’n chwaneg mo’no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
P’un ai teg ai garw’r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.
Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau’n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i’ch gwas’naethu
Methais gysgu lawer gwaith.
Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu’m tro oddeutu’ch tre’,
Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy’n meddu da a moddion—
Digon sy’n eich llety llawn,—
Gwnai ychydig o’ch gweddillion
DIC a’i deulu’n llawen iawn.
LLWYDD GROEG.
Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.
Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—Groeg,
Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy’r moroedd draw a’r muriau.
“A llwydd gyfarwydd a fo
I’w Rhyddid, yn eu rhwyddo:
Na lanwed yn oleuni,
Cafn y Lloer [{33}] uwch cefn y lli’;
Ond isel, isel eisoes
Drwy gred ymgrymed i’r Groes.
A thra tonn, Marathon, a muriau,
A rhin milwyr yr hen ymylau,
A gaent ffyniant gynt a hoff enwau,
O’u iawn barodrwydd, yn eu brwydrau,
Gwasgarer, gyrrer dan gaerau,—yn haid,
Weis Soldaniaid, isel eu doniau.”
Fal hyn o bob dyffryn deg,
Ac ynys a gylch gwaneg;
O’r tyrau muriau mawrion,
Mannau dysg a min y donn,—
Y glau Awen a glywodd
Y llais, a’r adlais a rodd
Groeg hen, yn gwiriaw cynnydd
Ei golau ddawn ac ail ddydd.
Ar ystlysau ei mynyddau,
A’i ffynhonnau hoff yn unawl,
Gwelwyd chwithau, a’ch telynau,
Hen dduwiesau hoen ddewisawl;
Yn galw o’i nych i’w goleu’n ol—eich gwlad,
Ac iawn fwriad, a gwe anfarwawl.
Ac wrth wych adlais, a gwyrth eich odlau,
Cysgodolion y diwydion dadau,
Yr aml areithwyr, y milwyr hwythau,
Gwyr fu o ddinam ragoraf ddoniau,
A neidiant, beiddiant o’u beddau,—a’u plant
A iawn gynhyrfant hwy i gain arfau.
Mae Pindar, oedd gâr gorwyllt,
A dawn ei gân o dân gwyllt;
Tyrtæus yn troi tuedd,
I roi clod i wyr y cledd:
“O! (meddant,) p’le mwy addien,
Yn gwrr c’oedd, nag yw’n Groeg hen?
Ein gwlad fwyn, o glod a fu,
Unwaith, yn mawr dywynnu,
Eto’i gyd ytyw a’i gwedd,
A’i rhannau yn llawn rhinwedd:
Ym mro bon y mae hir haf,
Bêr awel a byrr aeaf.
Yr haul y sy’n rheoli,
Heb roi haint, ar ei bro hi;
Mae nos, yn ei mynwesydd,
Megis chwaer ddisglaer i ddydd;
Aml y lle, ym mol ei llawr,
A mannau’r harddaf mynawr;
Hemætus felus y fydd,
A diliau mêl ei dolydd;
A’i ffrwythydd gwinwydd, fal gynt,
Di-odid mai da ydynt.
Holl natur bur heb wyro,
Sy’r un fraint i’r seirian fro,
A phan oedd, yn hoff ei nerth,
Briod-fan pob dawn brydferth.
“Yma gwir Ryddid, a’i mŷg aur roddion,
Sef celfyddydau a doniau dynion:
Rhin a roi eil-oes i’r hen wrolion,
A gair odiaethawl i’w gorau doethion,
A wnaent gynt i helynt hon—anrhydedd,
Ynt, (ddi-hoff agwedd) o tan ddiffygion.”
Wrth eu haraith, effaith ddig,
Dawn y wlad, yn weledig,
Fal yspryd tanllyd o’u tu,
A wnae’n anadl enynnu,—
Gan ddangos, yn achos Ner,
A’i fendith, a’i gyfiawnder,
Y mawr fri o dorri’r dîd,
I ymroddi am Ryddid.
Pwy ar alwad, a piau wroliaeth,
Ni ddaw i’w dilyn, a nawdd o’i dalaeth,
A rhin fal arwyr yr hen filwriaeth,
Draw a hwylient i Droia ehelaeth,
Os y goll o Ryddid sy’ gwaeth—na’r hen
Golled o Helen, gai hyll hudoliaeth?
Hen anghrist, un athrist oedd,
O’r tu arall i’r tiroedd,
A gododd,—gwaethodd drwy’r gad,
Ar fìloedd i’w rhyfeliad:
Un oedd o’r rhai aneddant
Uffern boeth yn ei ffwrn bant,—
Hoffai lid a gofid gau,
A’i llwydd ydoedd lladdiadau;
Seirph tanllyd, gwaedlyd eu gwedd,
Gwenwynig, (gwae anhunedd)
Ei gwallt oedd,—a gwyllt eiddig,
Rhag hedd oedd dannedd ei dig;
Ei llygaid yn danbaid des
Oedd uffernawl ddwy ffwrnes;
A’u sylwedd, o’r iseloedd,
A’u mawr lid, tra marwawl oedd.
O! pa ryfel, a’i uchel ochain,
Dial a’i ofid, a dolefain,
O’i chodiad irad yn y Dwyrain,
’Fu’r un baich i fawrion a bychain;
Baban a mam (un ddamwain) lle cafodd,
Dieneidiodd o dan ei hadain.
Ond Duw’r hedd o’i ryfedd rad,
Yn ’diwedd, roi wrandawiad
I’w blant,—pan godent eu bloedd,
Dan ofid hyd y nefoedd:
O Scio wylo, alaeth,
I’w glustiau’n ddiau a ddaeth;
A rhoes, Iôr y Groes, ar gri,
Dyst eirian o’i dosturi;
D’ai’n gymorth, da borth di-baid,
Nes i ryw’r Nazareaid,
Rai marwawl, er eu muriau,
Ac erfyn eu gelyn gau.
Angylion, genadon gwynion gannoedd,
Gyrrai i’w llywiaw, y gorau lluoedd,
Rhwygent y muriau, rhoi gwynt y moroedd
I’r ddi-ofn daran, hwyl ar ddyfnderoedd,
Llu’r Proffwyd dan arswyd oedd—pan welent,
Hwy draw a gilient i eu dirgeloedd.
Yn awr (a Duw’n ei wiriaw)
Golygwn ddwthwn a ddaw,—
Pan deflir, lluchir i’r llawr
Ddu arfawg anghrist ddirfawr;
A phan gair, yn hoff ei gwedd,
Gaer enwawg i’r gwirionedd:
Drwy reol gwydrau’r awen,
Draw’r llwydd a welaf drwy’r llen;—
Llwydd oesoedd lluoedd Iesu,
Pan gânt y feddiant a fu
O ddiwall wlad addewid,
Heb gaethder, llymder, na llid.
Gyrr y Dwyrain, ac oer ia diroedd
Y dwfn eira, eu di-ofn yrroedd;
Gyrr y Deau hithau ei hieithoedd,
A Gorllewin ei gorau lluoedd;
Un fwriad a niferoedd—y fawr-blaid
O Groesadiaid, ac eres ydoedd.
Bydd ar dyrau Salem furiau,
Y banerau yn ben arwydd,
I’r tylwythau, ar eu teithiau
I le’u tadau, olud dedwydd;
Ar Fosciaid y blaid heb lwydd,—dyrchefir
Ac eres welir y Groes hylwydd.
A thi, Roeg, a’th ddaear wych,
A’th awyr brydferth hoew-wych,
A welir eto eilwaith,
Fal gynt, er rhyfelawg waith,
Yn llwyddo’n fronlle addysg,
A lle llawn pob dawn a dysg;
Byddi, heb nam, yn fam faeth
I rinwedd—i wroniaeth—
I ddidwyll gelfyddydau,
Pob llwydd, a wna pawb wellhau;
I bob mâd gariad gwladawl,
A fu gynt dy fwya’ gwawl.
Ac iawn adferir, gwnn, dy furiau,
Dy awen, llwynydd, dy winllanau,
Dy brif-ysgolion, dirion dyrau,
Lleoedd doethion ddynion o ddoniau;
Sparta hen, Athen hithau—a gant lwydd,
A fydd ddedwydd o gelfyddydau.
Darlunir hyd ar lenni,
A mynnir, gwn, o’th meini
Gelfyddyd byd heb oedi;
Y dynion a adweini,
Yn rhediad eu mawrhydi,
Yn eil-oes, gwnn, a weli;
Eu cerf-ddelwau, lluniau llawn,
Fodd uniawn, a feddieni.
Llwydd, llwydd, a dawn rwydd, dan ryddid—eto
Iti a chalondid:
Yn y byd hwn, na boed tid
Dan nefoedd yn dynn ofid.
Ond aed (ac O! nad oeded)—lywodraeth
Ddi-ledryw gwlad Alffred,
A’i moliant i ymweled
A thir y Gryw, a thrwy Gred.
Y Rhyddid sydd gyd-raddawl,—oll hydrefn
A llywodraeth wladawl,
Sydd dda;—a chyd-gerdda gwawl
Gair yr Iesu, gwir rasawl.
A llwydd Dduw iddi, a lleoedd heddwch,
Gyrred allan o’i gaerau dywyllwch:
I ni y mae digon yma o degwch
Gael in’, a’i hurddas, Gwalia’n ei harddwch;
Nes troi’n glynnau’n fflamau fflwch,—a’n creigiau,
Llonned ei dyddiau’n llên â dedwyddwch.
HAWDDAMOR.
Englynion ar agoriad Eisteddfod Caerwys, 1823.
Nawddamor bob gradd yma,—orwych feirdd,
Rhowch fyrddau ’ni wledda;
Lluman arfoll Minerfa
Sydd uwch Caerwys ddilys dda.
Bu Caerwys, er pob corwynt—a ’sgydwai
Weis cedyrn eu tremynt,—
Er braw, anhylaw helynt,
Nyth y gain farddoniaeth gynt.
Troi o hyd mae byd heb oedi—â’n isel,
Mewn oesoedd, brif drefi;
Rhoes Groeg hen, a’i Hathen hi,
Awr i Gaerwys ragori.
DAFYDD IONAWR.
Englyn o fawl i’r Bardd clodwiw am ei ymdrechiadau haeddbarch i ddiddyfnu yr Awen oddiwrth ffiloreg a sothach, a’i chysegru i wasanaeth rhinwedd a duwioldeb.
Yr Awen burwen gadd barch,—unionwyd
Gan IONAWR o’i hamharch;
Hefelydd i glaf alarch
A’i mawl yw yn ymyl arch.
GWYL DDEWI.
Penhillion a ddatganwyd yn Nghymdeithas Gymroaidd Rhuthyn, Gwyl Ddewi, 1823.
Tôn,—“Ar hyd y Nos.”
Trystio arfau tros y terfyn,
Corn yn deffro cawri y dyffryn,—
Tanio celloedd—gwaed yn colli,
Yn mro Rhuthyn gynt fu’n peri
I’r ael dduo ar Wyl Ddewi,
Ar hyd y nos.
Heddyw darfu ystryw estron,
Ellyll hwyr, a chyllill hirion;
Saeson fu’n elynion inni,
Heno gwisgant genin gwisgi—
Law-law’n dawel Wyl ein Dewi,
Ar hyd y nos.
Clywch trwy Gymru’r beraidd gyngan
Rhwygo awyr â goroian—
Swn telynau—adsain llethri—
O Blumlumon i Eryri—
Gwalia ddywed—‘Daeth Gwyl Ddewi,’
Ar hyd y wlad.
Felly ninnau rhoddwn fonllef
Peraidd lais ac adlais cydlef;
Rhaid i’r galon wirion oeri
Cyn’r anghofiwn wlad ein geni,
Na gwledd Awen bob Gwyl Ddewi,
Ar hyd y wlad.
EISTEDDFOD Y WYDDGRUG.
AT MR. E. PARRY, CAERLLEON.
Wyddgrug, Awst 16eg, 1823.
Goroian! goroian! Mr. Parry anwyl. Bydd Callestr yn enwocaf o’r enwogion eto. Yr ydwyf newydd ddychwelyd o ystafell y dirprwywyr yn y Leeswood Arms, lle y cydsyniodd y gwladgarol Syr Edward Llwyd i gymeryd y gadair yn ein Heisteddfod; a rhoddodd £5 at ddwyn y draul. Gosododd y mater o flaen yr uchel-reithwyr (grand jury) am y Sir, a thanysgrifìodd pob un o honynt bunt, gydag addaw ei noddi. Taflodd yr Uchel-sirydd ei deir-punt at y draul, gan addunedu, er mai Sais oedd, y byddai iddo noddi athrylith gwlad ei henafiaid hyd angeu. Dyma ddechreu yn iawn onide! Bellach, fy nghyfaill, ni raid i chwi wrido wrth son am eich sir gynhennid. Mae tân yn y gallestr, ac wedi ei tharaw o dde, hi a wna holl Gymru “yn brydferth goelcerth i gyd.” Gosododd Callestr yr engraifft i holl siroedd eraill Cymru, trwy gymeryd y peth yn orchwyl y sir, yn y cyfarfod uchaf sydd ganddi.
Nid oeddym ar y cyntaf yn meddwl ond am un bunt yn wobrau am y cyfansoddiadau goreu; maent yn awr wedi eu codi i bump, a disgwylir pan y cyferfydd y dirprwywyr nesaf y gellir eu hychwanegu eto. Dyna’r pryd y llwyr benderfynir ar y testynau, yr amser, y barnwyr, a’r gwobrau; a byddaf yn sicr o anfon rhai o’r hysbysiadau argraffedig yn gyntaf oll i fy nghyfaill caredig a gwresog o Gaer, heb ddymuno mwy na’i weled yn ymgeisiwr llwyddianus.
Mi a glywais fod Mrs. Parry a’i mab yn iach galonnog.—Dyma i chwi ychydig rigwm a gysoddais wythnos neu ddwy yn ol, ar destun a mesur cân ragorach y doniol Erfyl. Chwi a welwch wrthi mai amcan at annerch y “gwr ieuanc dieithr” ydyw, fel pe buaswn wyddfodol.
Henffych, amhrisiadwy drysor,
Blaenffrwyth y serchiadau mâd;
Ni fedd natur bleser rhagor
Na theimladau mam a thad.
Wrth olygu’th wyneb siriol,
Gaiff dieithr godi ei lef,
’Mhell uwchlaw syniadau bydol—
Erfyn it’ fendithion Nef?
Nid am gyfoeth, clod, na glendid
Caiff fy nymuniadau fod;
Dylai deiliaid tragwyddolfyd
Gyrchu at amgenach nod.
Boed i’th rudd sy’n awr a’i gogwydd
At y bur dyneraidd fron,
Ddangos oedran diniweidrwydd,—
Gwisged bob lledneisrwydd llon.
Dy wefus sydd wrth ei chusanu
’N ail i rosyn teg ei liw,—
Boed i hon yn ieuanc ddysgu
Deisyf am fendithion Duw.
Na wna achos wylo defnyn
O’r llygaid ’nawr mewn cwsg sy’n cloi,
Ond i dlodi dyro ddeigryn
Os na feddi fwy i’w roi.
Dy ddwy law, sy’n awr mor dyner,
Na bo iddynt gynnyg cam;
Ond rho ’mhleth i ddweyd dy bader
Ac i ofyn bendith mam.
Na boed gwên dy wyneb tirion
Byth yn gymysg gyda thrals,
Ac na chaffo brad ddichellion
Le i lechu dan dy ais.
Na boed byth i’th draed ysgogi
Oddiar ffordd ddaionus Duw:
Er ei chau â drain a drysni—
Llwybr i’r Baradwys yw.
Boed i’th riaint fyw i’th arwain
Gam a cham ar lwybrau gwir;
Na foed arnat ras yn angen
Tra yma yn yr anial dir.
Yr ydwyf yn gyrru eich llyfrau yn ol, gyda’r diolchgaiwch gwresocaf am eu benthyg. Yn y sypyn, hefyd, cewch hen ysgrif-lyfr, haws ei ddeall na’r llall: mynnwn gyfeirio eich sylw at y “Cywydd i law merch,” ac ni chewch eich siomi. Mae beirniaid da wedi meddwl mai llaw ysgrifen SION TUDUR ei hun ydyw y llyfr hwn, ond prin y gallaf goelio hynny. Yn Rhuthyn y prynais i ef, am 1s. 6c. ‘Digon o newid arno,’ meddwch chwithau. Pe meddyliwn na byddai yn bechod anfaddeuol, gormeswn ar eich tiriondeb ymhellach, a gofynwn am fenthyg Transactions of the Cymmrodorion, yn ol gyda’r dygiedydd. Yr ydwyf, ar ddymuniad gwr Eglwysig, yn bwriadu cyfieithu “Hanes y Cymry, o farwolaeth Llewelyn hyd eu hundeb â Lloegr.”
Maddeuwch fusgrellni fy llythyr,—yn wir mae gorfoledd am lwyddiant ein Heisteddfod wedi fy nghymysgu yn llwyr, fel na wn pa beth a ysgrifenais.
“RHYWUN.”
Clywais lawer son a siarad
Fod rhyw boen yn dilyn cariad;
Ar y son gwnawn innau chwerthin
Nes y gwelais wyneb Rhywun.
Ni wna cyngor, ni wna cysur,
Ni wna canmil mwy o ddolur,
Ac ni wna ceryddon undyn
Beri im’ beidio caru Rhywun.
Gwyn ac oer yw marmor mynydd,
Gwyn ac oer yw ewyn nentydd;
Gwyn ac oer yw eira Berwyn,
Gwynnach, oerach, dwyfron Rhywun.
Er cael llygaid fel y perlau.
Er cael cwrel yn wefusau,
Er cael gruddiau fel y rhosyn,
Carreg ydyw calon Rhywun.
Tra bo clogwyn yn Eryri,
Tra bo coed ar ben y Beili,
Tra bo dwfr yn afon Alun,
Cadwaf galon bur i Rywun.
Pa le bynnag bo’m tynghedfen,
P’un ai Berhiw ai Rhydychen,
Am fy nghariad os bydd gofyn,
Fy unig ateb i fydd—Rhywun.
Caiff yr haul fachludo’r borau,
Ac a moelydd yn gymylau,—
Gwisgir fi mewn amdo purwyn
Cyn y peidiaf garu Rhywun.
MAES GARMON.
Rhagymadrodd.
Boed Hector flaenor a’i floedd,
Eirf Illium a’i rhyfeloedd,
Groeg anwar mewn garw gynnen,
Bynciau y per Homer hen;
Hidled Virgil, wiwged was,
Wîn awen uwch Æneas;
Gwnaed eraill ganiad eurwedd
Am arfau claer,—am rwyf cledd,
Byllt trwy dân gwyllt yn gwau,
Mŵg a niwl o’r magnelau;
Brad rhyw haid, a brwydrau hen,
Oes, a phleidiau Maes Flodden; [{45a}]
Gwarchau, a dagrau digrawn,
Cotinth a Valencia lawn, [{45b}]
Eiliant bleth, a molant blaid
Gywreinwych ei gwroniaid.
Mae gennyf yma i ganu
Fwy gwron, sef Garmon gu;
Ag eirf dig eu gorfod oedd,
Gorfodaeth braich gref ydoedd;
Hwn gadd glod a gorfodaeth
Heb ergyd na syflyd saeth;
I lu duwiol a diarf
Yn wyrth oedd,—ac heb nerth arf;
Duw yn blaid, a wnae eu bloedd
Heibio i ddawn y byddinoedd.
Hwyrddydd ar y Môr.
Y dwthwn ’raeth cymdeithas
Gwyr Rhufain, o Frydain fras,
Ar hwyrddydd o ryw harddaf,
Mwyna ’rioed yn min yr haf;
E giliai’r haul, glauar hin,
Ag aur lliwiai’r Gorllewin;
Goreurai gyrrau oerion,
Ferwawg a del frig y donn;
Holl natur llawen ytoedd,
Ystŵr, na dwndwr, nid oedd;
Ond sibrwd deng ffrwd ffreudeg
Llorf dannau y tonnau teg;
A’r tawel ddof awelon,
Awyr deg ar warr y donn;
Tôn ar dôn yn ymdaenu,
Holl anian mewn cyngan cu,
Gwawr oedd hyn, a gyrr i ddod,
Ac armel o flaen gwermod;
Cwmwl dwl yn adeiliaw,
Oedd i’w weled fel lled llaw.
Tymhestl.
Ael wybren, oedd oleubryd,—a guddid
Gan gaddug dychrynllyd,—
Enynnai yr un ennyd,
Fel anferth goelcerth i gyd.
Môr a thir a’u mawrwaith oedd,
Yn awr, fal mawr ryfeloedd;
Mawr eigion yn ymrwygo,
Ar fol ei gryf wely gro;
Archai—gan guro’i erchwyn,
A’i dwrw ffrom—dorri ei ffrwyn;
Ymwân Udd [{47}] uwch mynyddoedd,
At y Nef yn estyn oedd;
Dynoethid yna weithion,
Draw i’r dydd, odreu’r donn;
Dodwodd y cwmwl dudew
Ei genllysg i’r terfysg tew;
A’r gwyntoedd rwygent entyrch,
Neifion deifl i’r Nef yn dyrch;
Deuai nos i doi y nen,
Duai’n ebrwydd dan wybren;
Ac o’r erchyll dywyll do
Tân a mellt yn ymwylltio;
Taranent nes torwynnu
Y llynclyn diderfyn du.
Yn mysg y terfysg twrf-faith
Gwelid llong, uwch gwaelod llaith,
Yn morio yn erbyn mawr-wynt,—
Môr yn dygyfor, a’r gwynt
Wnai’r hwyliau’n ddarnau’n ei ddig,
A’r llyw ydoedd ddrylliedig;
Mynedyddion mwyn doddynt,
Eu gwaedd a glywid drwy’r gwynt;
Llef irad a llygad lli,
Y galon ddewra’n gwelwi;
Anobaith do’i wynebau,
Ac ofn dôr y gwyllt-fôr gau,
Gwynnodd pob gwep gan gynni,—
Llewygent,—crynent rhag cri
Gwylan ar ben’r hwylbren rhydd,
“Ysturmant yr ystormydd!”
A mawrwych galon morwr,
Llawn o dân, droai’n llyn dŵr;
Llw fu’n hawdd, droe’n llefain O!
A chân elwch yn wylo.
Garmon a Bleiddan.
Yn mawr swn ymrysonau
’R tro, ’roedd yno ryw ddau
Llon hedd ar eu gwedd hwy gaid,
A chanent heb ochenaid:
Un Garmon, gelyn gormail,
A Bleiddan ddiddan oedd ail;
Gwelent drigfannau gwiwlon,
Ac iach le teg, uwchlaw tonn,—
Lle nad oes loes, fel isod,
Nac un westl dymestl yn dod;
Eiddunent hwy Dduw anian,—
Traethaf a gofiaf o’r gân.
“Hyd atad, ein Duw, eto,
Dyneswn, edrychwn dro;
Rhown i ti, rhwng cernau tonn,
Hael Geli, fawl o galon;
Rhued nawf, nis rhaid i ni,
Uwch ei safn, achos ofni:
Y lli dwfr sy’n y llaw dâu,—
Dy law, ’n Ion, a’n deil ninnau.
“Ti yw arweinydd y taranau,
Tefli y sythion fellt fel saethau,—
Gan roi, a dwyn, dy ffrwyn yn ffroenau
Anwar dymestl,—mae’n wir diamau:
Yng nghynnen yr elfennau—rhoddi’r gwynt,
Gelwi gorwynt,—neu gloi ei gaerau.
“Y môr uthr udawl, a’i dra mawr ruthriadau,
Y sydd fel moelydd uwch y cymylau;
Yr wyt ti, Ynad, ar warr y tonnau,
Yn trefnu hynt y chwerw-wynt i chwarau;
Cesgli’r gwynt chwyrn i’th ddyrnau,—yn sydyn,
Arafa wedyn bob cynhyrfiadau.
“Pa ragor in’ for yn fedd
Na gwaun dir i gnawd orwedd?
Cawn i’th gôl o farwol fyd,
Yn nydd angeu’n hawdd ddiengyd,—
Mae’n calon yn boddloni
I uniawn drefn Un yn Dri.”
Pan ar ben gorffen y gân
Y terfynai twrf anian;
Clywai’r Un sy’n cloriannu
Rhawd, o’r ser i’r dyfnder du:
Arafodd, llaesodd y lli,
Trychineb, a’r trochioni;
Môr a nen ymyrrai’n ol,
I ddistawrwydd ystyriol;
Deuai hwyl a da helynt
Y donn yn gyson â’r gwynt;
Mewn un llais rhoent hymnau’n llon,
I’r hwn a roes yr hinon;
Yna y chwai dorrai dydd,—
Dyna lan Prydain lonydd.
Doe’r llong, ar ddiddan waneg,
I ben y daith—Albion deg.
Prydain yn 429.
Hîl Gomer yr amser hyn,
Oedd o nodwedd anhydyn;
Amryw nwyd wnae Gymru’n waeth,
Mawr gynnen, a Morganiaeth;
Gwyr digariad i’w goror,
Lanwai â cham, lan a chôr:
Rhai ffol yn cymysgu’r ffydd
A choelion am uchelwydd;
Gwadu Crist, neu gydio’u cred
Ar glebr am “dreiglo abred”;
Pictiaid, Ysgotiaid, weis cas,
Ruthrent, lunient alanas;
A Phrydain heb undeb oedd,
Na llyw wrth ben ei lluoedd;
Y llysoedd, yn lle iesin
Farnu gwael, oe’nt defyrn gwin;
Brad amlwg, a brwd ymladd,
Gorthrech, cri, llosgi, a lladd,
Wnae Albion,—â’u troion trwch
Yn ail i ryw anialwch.
Taith y ddau.
Y teulu apostolaidd
Eu bron, cyn gorffwyso braidd,
Drwy’r wlad, ar waith clodadwy
Eu Tad, ymegnient hwy.
Gan foreu godi,—rhoddi’n rhwyddion
Fyrr o Gilead wrth friwiau gwaelion;
Digyrith bleidio gwirion—rhag gwrthdrin,
Rhoi llaeth a gwin i’r llwythau gweinion.
Cynhadledd a’r Morganiaid.
Iselaidd furiau Salem
Godent, ac urddent â gem;
A gem y ddau ddegymydd,
Fu aur a ffurf y wir ffydd;
Gemau’r gair, disglair, dwys,
Yw parwydydd Paradwys;
Er gogan, a phob anair,
Dysgent, pregethent y gair,
Nes cwnnu’r llesg gwan o’r llaid,—
Taro’r annuw trwy’r enaid:
Lle blin a hyll o’u blaen oedd,
Ail Eden o’u hol ydoedd;
O flaen rhain, diflannu’r oedd
Heresiau mwya’r oesoedd;
Tost iawn chwedl i genedl gam
Fu’r holiad yn Verulam:
Ugeiniau o’r Morganiaid,
Ddynion blwng, oedd yno’n blaid:
Llwyddai Ion y dynion da,
Er c’wilydd Agricola;
Ar air Ion, i lawr yr aeth
Muriau gweinion Morganiaeth.
Dynion oedd dan adenydd—ystlumaidd
Gwestl amhur goelgrefydd;
Ymagorai’r magwrydd,
Gwelen’ deg oleuni dydd.
Morganiaid er mawr gynnwrf,
Hwynt yn eu llid droent yn llwfr;
Yna’r dorf anwar a dig,
At y gwyr godent gerrig,—
A mynnent bwyo ’mennydd
Y rhai ffol fu’n gwyro’r ffydd!
Ond y graslon Garmon gu
A ataliodd y teulu:
Bleiddan, ar hynny, bloeddiai,—
“Clywch! eon, ry eon rai!
Pwyllwch, arafwch rywfaint!
Godde’ sy’n gweddu i saint;
I’n Duw y perthyn dial,—
I’r annuw ein Duw a dâl;
Par ei farn am bob rhyw fai,
Llaw dialedd lle dylai.
Ond cafodd fodd i faddau,—
Drwy gur un—gall drugarhau;
Y garw boen, hyd gaerau bedd,
Agorai gell trugaredd;
A’n harch gwir, i lenwi’r wlad
Yn farn am gyfeiliornad,
Yw troi, o ras ter yr Ion,
Galonnau ein gelynion
I droedio wrth ddeddf dradoeth;
Dyn yn ddwl,—Duw Ion yn ddoeth.
Felly yn awr, dan wawr well,
Pob un ant tua’u pabell;
Nef uchod rhoed Naf i chwi,—
Mewn heddwch dychwelwch chwi.”
Tra llefarodd, troell fawrwych
Anian droes yn iawn ei drych;
Y dymer ydoedd dwymyn
Dda’i yn ei lle,—toddai’n llyn.
Gwelent ei drwg—amlwg oedd,
A’u llid—mor fyrbwyll ydoedd;
Ust! tawelynt drwyddynt draw,
O dawelwch, doi wylaw.
’Nawr o’u dwrn yn ara’ deg
Parai gwir gwymp i’r garreg;
Trwst y main, a’r ubain rhwydd
Dwys, a dorrai’r distawrwydd.
Yna’r gynulleidfa’n llon
Ddychwelent—(gwedd a chalon
Eto’n awr yn gytun oedd,)
Law yn llaw, lonna lluoedd.
Cyrraedd Ystrad Alun.
Dau gennad gwyn! Wedi gwyl
Hwy gyrchent at eu gorchwyl.
Llafurient â’u holl fwriad,
Dan Iôr i oleuo’r wlad;
A’i dwyn hi dan ordinhad
Da reol, o’i dirywiad;
Dan y gwaith heb lid na gwg,
Trwy erlid, ymlid amlwg,
Doent wrth deithio bro a bryn,
I olwg Ystrad Alun;
Elai’r gwyr, gan eilio’r gân,
Drwy Faelor, oror eirian.
Hwyr hithau ddwyrai weithion,
Llwydai fry ddillad y fron;
Ucheron, [{53}] uwch ei chaerydd,
A’i t’wysai, pan darfai dydd;
Y lloer, a’i mantell arian,
Ddeuai un modd, yn y man;
Daeth o le i le fel hyn
Y faith yrfa i’w therfyn;
Nawdd Ior, ac arweinydd ddug
Y rhwyddgraff ddau i’r Wyddgrug:
Lletyent mewn lle tawel,
Trigle dêr a mangre mêl;
Lle addas y lluyddwr
Rhufon, oedd yn union wr;
Un crefyddol, dduwiol ddawn,
Doeth, a’i gyfoeth yn gyfiawn;
Iachawdwr, a braich ydoedd,
Ac anadl ei genedl oedd;
I’w ardal deg, ateg oedd,
Llywiawdwr ei llu ydoedd;
Dau noddwr duwinyddiaeth,
Arfolli, noddi a wnaeth;
Eu siarad, am rad yr oedd,
A mesurau’r amseroedd;
Gwael greifion y goelgrefydd,
Rhannau a ffurf yr iawn ffydd;
A bro a’i hedd i barhau,
Uwch annedwydd och’neidiau;
Y duwiol hyfrydol fron
Ddiddenid â’u ’mddiddanion;
Rhufon er hynny’n rhyfedd,
Oedd o ddirgel isel wedd;
Son am loes sy’n aml isod,
A chael rhan uwchlaw y rhod,
Wnae’i fron der, yn nyfnder nod,
Chwyddo o ebwch ddiwybod;
Ei deg rudd, lle gwelwyd gwrid,
A ddeifiodd rhyw ddu ofid;
A dygai’r llef y deigr llaith
I’r golwg, ’nawr ac eilwaith.
’Roedd gwaelod y trallod trwch
I wyr Gallia’n ddirgelwch;
Hwy sylwent mai isel-wan
A dwl, oedd ei briod lân;
Beth fu’r anferth ryferthwy
Ni wyddent—ni holent hwy.
Yna, a’u bron heb un braw,
Hwy wahanent i hunaw;
Pwys y daith, mor faith a fu,
A’i gwasgodd hwynt i gysgu:
Edyn Ion, rhag troion trwch,
A’u mantellynt, mewn t’wllwch.
Yn bur a gwyneb araul,
Cwnnu yr oedd cyn yr haul
Y ddau deg, ddifreg o fryd,
A Rhufon hawddgar hefyd;
Rhodient i wrando’r hedydd
Gydag awel dawel dydd,
Hyd ddeiliog lennydd Alun,
I weld urddas glas y glyn;
Clywent sibrwd y ffrwd ffraeth
Yn dilyn hyd y dalaeth;
Y gro mân ac rhai meini,
Yn hual ei hoewal hi.
Agorir dorau goror y dwyrain,
Yna Aurora sydd yn arwyrain;
Nifwl ni ’merys o flaen ei mirain
Gerbyd llachrawg, a’i meirch bywiawg buain,
Ewybr o gylch y wybr gain—teifl gwrel,
A lliwia argel â’i mantell eurgain.
Yna deffrodd awelon y dyffryn,
Ae’ si trwy y dolau’n Ystrad Alun;
Haul drwy y goedwig belydrai gwed’yn,
Bu i Argoed hirell, a brigau terwyn,
D’ai lliw y rhod oll ar hyn—fel porffor,
A goror Maelor fel gwawr aur melyn.
Ar ei hadain, y seingar ehedydd
Fwria’i cherddi i gyfarch y wawr-ddydd;
Deffroai gantorion llon y llwynydd
I bereiddio awelon boreu-ddydd,—
A pher wawd i’w Creawdydd,—trwy’r wiw-nen,
O ferion awen,—am foreu newydd.
Bwrid ar hyn heb eiriach,
Ganiadau o bigau bach;
Eu glwys-gerdd lanwai’r glasgoed,—
Caniadau rhwng cangau’r coed;
Gwna bronfraith dasg ar las-gainc,
Trwsio’i phlu a chanu’i chainc.
Yna llon ganai llinos—i gynnal
Cerdd geinwech yr eos,
Ymorau heb ymaros,
I Geli am noddi’r nos.
A seiniai, pynciau pob pig
I’w Creawdwr caredig;
Nes yr aeth yn mhen ennyd
Yr wybr fan yn gân i gyd.
Esgynnent, troent eu tri
I balawg Fryn y Beili,
I weld y wlad,—ferthwlad fau,—
Rhedai Alun trwy’i dolau
Dyffrynol, breiniol a bras,
Oll yn hardd a llawn urddas;
Duw Celi oedd gwedi gwau
’N gywrain eu dillad gorau;
Deor myrr, neithdar, a mêl,
Yn rhywiog a wnae’r awel;
Aroglai’r manwydd briglas,
Y bau a’i chwrlidau’n las;
A diffrwyth lysiau’r dyffryn
Gwlithog, fyrdd, mewn gwyrdd a gwyn.
Ebrwydd, y corn boreubryd
Alwai ’ngwrth y teulu nghyd;
Teulu y castell telaid,
’Nol porthi, mewn gweddi gaid.
Rhufon a yrrai hefyd
Efo’r gweis, trwy’r fro i gyd,
Am neges em enwogion
I weled tir y wlad hon,—
Yr eilient yn ochr Alun
Araeth am gadwraeth dyn;
A’u bod am weini bedydd
Yn ael y dwfr, ganol dydd;
Ag awydd ferth, gweddai fod
Bawb ynaw â’u babanod;
Mai bechan y Llan oll oedd
I gynnwys amryw gannoedd.
Gofid Rhufon.
Felly aent o’r arfoll hon
Eu tri, i’r gerddi gwyrddion;
Mawl i Dduw roent mewn teml ddail,
Gwedi ’i gwau gyda gwiail;
Ei lloriau, â gleiniau glwys,
B’rwydid fel ail Baradwys;
Sonient, with aros yno,
Am och a brad,—am uwch bro,—
Lle na ddel gwyll neu ddolef,—
Am urdd yn Nuw,—am ardd Nef,—
Gardd o oesol radol rîn,
A’i haberoedd yn bur-win.
Rhufon, dan ofid rhyfawr,
Ni ddywedai—ofynnai fawr;
Danghosai’ liw, nid gwiw gwad,
Loes erwin uwchlaw siarad;
O’r diwedd, ’nol hir dewi,
Ochenaid, a llygaid lli,
A’i ddagrau, fel rhaffau’n rhydd,
O’i lygaid yn wlawogydd,—
Tan grynnu’i fant yn graen, fo
Gwynai alaeth gan wylo,
“Enwogiawn, mi wn agos
Rhaid i ’null ar hyd y nos
Ddangos fod saeth gaeth, a gwg,
Drwy’r galon draw o’r golwg;
Y ngrudd gref, lle gwingodd graid,
Llychwinodd aml ochenaid;
Grym y groes, a dagrau’m gwraig,
Dyrr wên y diarynaig.
Mynegaf i’m henwogion
Hanes fy mriw—naws fy mron,
A’r achos o’m hir ochi,—
Yr oedd mab iraidd i mi;
Delw i’r holl ardaloedd,—
Eu tegwch a’u harddwch oedd;
’R oedd ei rwydd daclusrwydd clau,
A’i lun nerthol yn wyrthiau;
A gwên hoff lawen a fflwch,
Ireiddiwch ar ei ruddiau.