Ond oedai Edward wedyn
Eu galw i’r llys, hysbys hyn;
Disgwyliai â dwys galon,—
Heb gau ei amrantau ’mron,
I’w fanon wirion, arab,
Ar awr ferth, esgor ar fab.

Harddai y lle—rhoi fwrdd llawn,
A gosod rhyw esgusiawn;
Ond er yr holl arfolli
Holl blaid ein penaethiaid ni
Ni charent y gwych aeron—
Y dawnsiau a’r llefau llon:
Y morfa llwm a hirfaith,
Lle berw tonn, oedd llwybr eu taith,
A myfyrient am fawrion
Aeth mewn cyrch dan dyrch y donn,—
Y glewion, enwogion wyr
Laddwyd, a’r prif luyddwyr:
Rhodient pan godai’r hedydd
Fel hyn, hyd i derfyn dydd;
A’u dyddiau oll fel diddim,
Synnent, ond ni ddwedent ddim:
Wedi egwyl ddisgwyliad,
O fewn eu bron daeth ofn brad,—
Swn, fal rhwng sisial a son,
“Llawrudd a chyllill hirion;”
’Roedd gwaelod y trallod trwch,
I wyr Gwalia’n ddirgelwch.

Geni Tywysog.

Wele! o’r diwedd, ar ol hir dewi,
Deuai i Iorwerth genadwri
O Gaersalwg,—gwnai ei groesholi,—
Yna ei holl anian oedd yn llonni
Hyd grechwen, pan glywodd eni—bachgen
Ag aur wialen a gai reoli.

Ac yna a’i udganwr
A’i gorn teg i gern y tŵr:
Galwyd arglwyddi Gwalia, ar unwaith,
Ar heng hirfaith i ddod i’r gynghorfa.

Pob rhyw gadr waladr oedd
Yn esgud yn ei wisgoedd;
Distain wnai iddynt eiste
Bob yn lwyth—bawb yn ei le:
Deuai’r Ynad dirinwedd,
Mewn parchus, arswydus wedd;
Mewn rhwysg a muner-wisgoedd,
Coron ar y coryn oedd;
A gwyneb yn llawn gweniaith,
O drefn y dechreuai draith.

“Fy neges, brif enwogion,
A glywiau teg y wlad hon,—
Nid ydyw i wneyd adwyth,
Dwyn loesion llymion yn llwyth,—
I fygwth clwyf a gwaith cledd,
Nac i lunio celanedd;
Ond o fwriad adferu
Eich hyfawl barch fel y bu;
Cymru ben baladr ffladr fflwch
Heddyw sydd eisiau heddwch;
Rhoddi Llywiawdwr addwyn,
Nwyfre maith, wnaf er ei mwyn;
Un na’s trina es’roniaith,
Na swn gwag Seisonig iaith;
Fe’i ganwyd ar dir Gwynedd,
Dull Sais, na’i falais, ni fedd;
Addefir ef yn ddifai,—
Ni ŵyr un fod arno fai:
Yn fwynaidd gwybod fynnwn,
Beth wnewch? Ufuddhewch i hwn?”

* * * * *

Cydunent, atebent hwy,—
“Ymweledydd mawladwy,
I’n cenedl rhyw chwedl go chwith
Ydyw geiriau digyrrith;
Cymru wech,—nis cymrai hon
Lyw o astrus law estron;
Ond tynged a brwnt angen,
A gwae ei phobl, blyga’i phen:
Llîn ein llon D’wysogion sydd
’Leni mewn daear lonydd:
Rho di’r llyw cadarn arnom
A dedwydd beunydd y b’om:—
Enwa ’nawr, er union waith,
Y gwr del wisga’r dalaith,
’Nol cyfraith, fel b’o rhaith rhom,
Na thyrr ing fyth awr rhyngom:
Ie, tyngwn, at angau,
Yn bur i hwn gwnawn barhau.”

Fulion! ni wyddent falais,
Dichellion, na swynion Sais.
Dwedai’r blin Frenin ar frys—
“Felly ces fy ewyllys,
Doe y daeth, megis saeth, son
Yn erfai o Gaernarfon,
Fod mab rydd wynfyd i mi,
Nawdd anwyl, newydd eni;
A hwn fydd eich llywydd llon,
A’ch T’wysog enwog union:
Dal a wnaf, nes delo’n wr,
Drethi eich llywodraethwr;
Bellach, y bydd sarllach Sais,
Mawr ddilwrf Gymry ddeliais.”