Gwelwent, a safent yn syn,
Ymhleth ddiachreth ddychryn;
A phob boch oedd yn brochi,—
Tro’i brad aml lygad i li.
Araeth Madog.
Ebai Madog, enwog wr,—
“Ha! rymusaf ormeswr!
Tybiais falch wawrwalch lle’r êl,
Wir awch, yn wr rhy uchel,
I lochi brad dan lech bron,
A challawr i ddichellion:
Ond ni wnei gu Gymru’n gaeth,
Bro dirion, â bradwriaeth;
Ni phryni serch prid, didwyll,
Ac odiaeth hon, gyda thwyll:
Os gall dy frad ddwyn gwlad glau
I gur a chwerw garcharau,—
Nis gall dy ewin-gall wau
Rhwym a ddalio’r meddyliau:
A oedd cochi perthi’n pau,
A llawruddio’n holl raddau,—
Ein llyfrau, a’n gotau gwaith,—
A’n haneddau ni’n oddaith,
Y teryll aer,—torri llw,
A’r brad ger Aberedw,—
Ow! ow! yn ddiwegi ddim yn ddigon,
I ddangaws, i araws i oes wyrion,
Fel rhyw anhawddgar ac afar gofion
Mai marwor meryw yw ystryw estron?
Ond am y wlad, deg-wlad hon,—gwybydd di,
Rhaid iti ei cholli, er dichellion.
“Os yw breg gwgus, a braw,
Fal wedi dal ein dwylaw,
Daw ail gynnwrf, dilwrf da,
I drigolion dewr Gwalia;
Codwn, arfogwn fagad,
O wrol wych wyr y wlad;
Mewn bâr y bonllefa’r llu
‘Camrwysg ni oddef Cymru,—
Rhi o’n huchel wehelyth,
Cymro boed i’r Cymry byth!’
Ni chaiff Sais, trwy ei drais, drin
Iau ar warr un o’r werin!
Daw’r telynau, mwythau myg,
Ddewr eu hwyl, oddiar helyg;
Rhed awen, er id wahardd,
Cerdd rhyfedd rhwng bysedd bardd;
Gwnant glymau a rhwymau rhom,
Enynnant y tân ynnom;
Dibrin pawb oll dadebrant,—
Heb ochel, i ryfel ’r ant;
A’n mynwes yn lloches llid,
Ein harwyddair fydd ‘Rhyddid!’
“Ag arfau ni wna’n gorfod
Tra’n creigiau a’n bylchau’n bod;
Cariwn mewn cof trwy’r cweryl,
Y’mhob bwlch, am Thermopyl;
Gwnawn weunydd a llwynydd llon,
Mawr hwythau, fel Marathon;
Yn benaf llefwn beunydd,—
‘Marw neu roi Cymru’n rhydd?’
“Os colli’n gwlad, anfad wyd,
O’r diwedd dan ruddfan raid,—
Yn lle trefn, cei pob lle troed,
Wedi ei gochi â’n gwaed;
Trenga’n meibion dewrion dig,
A llawryf am y llurig.
“Yn enw Crist eneiniog—ymroddaf
Am ryddid ardderchog;
A’r un Crist fu ar bren crôg,
Ni ymedy a Madog.”
E daw ar hyn,—d’ai ar ol
Ryw ddistawrwydd ystyriol.
Ac Iorwerth, ar y geiriau,
Fel llew dig ffyrnig mewn ffau;
Malais y Sais, echrys wg,
A welid yn ei olwg.
Tyb Euraid Ap Ifor.