O ryw fuddiol arfeddyd,—rhoi’n rhagor
Euraid Ap Ifor ei dyb hefyd,—

“Hyf agwrdd bendefigion,
Rhy brysur yw’r antur hon;
Ar furiau tref, ai rhaid trin
Anhoff astalch a ffestin?
Mae llid yn fy mron hynaws,
At Saeson, a’u troion traws;
Ond serch, a glywserch i’m gwlad,
O’m calon a rwyddlon red;
Na ato fyth, etwa fod
Neint hon yn gochion i gyd,—
Arafwn,—o’r tro rhyfedd
Hwyrach cawn, y mwynhawn, hedd;
E ddaw ergyd ddiwyrgam,
Lawn cur, i ddial ein cam;
Ac hefyd dylid cofio,—
Er prudded, trymed y tro,—
Er angeu’r gair fu rhyngom,
’R amodau, rhwymau fu rho’m:
Pan roddo Gymro y gair,
Hwnnw erys yn wir-air;
Ei air fydd, beunydd heb ball,
Yn wir, fel llw un arall:
Ein hynys hon i estron aeth,
A chyfan o’n gwiw uchafiaeth;
Ond ni throes awch loes, na chledd,
Erioed mo ein hanrhydedd;
A’n hurddas a wnawn arddel,
Y dydd hwn, a doed a ddêl:
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid,
Ar Dduw a’i wir addewid.
Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd, o’r hadledd hwn;
Heddyw, oedwn ddywedyd
Ein barn, yn gadarn i gyd;
Profwn beth dd’wed ein prif-fardd,—
Gwir iawn bwyll yw geiriau’n bardd;—
Pa lwyddiant, yn nhŷb Bleddyn,
A ddigwydd o herwydd hyn?”

Amneidient mewn munudyn
Ar yr ethol ddoniol ddyn,—
Yna, a phwys ar ben ei ffon,
Y gwelid y gwr gwiwlon:

Ei farf fel glân arian oedd,—mewn urddas,
Cyrhaeddai hon wasg ei wyrddion wisgoedd;
Yn null beirdd, enillai barch,—ar bob peth
E ddygai rywbeth hawddgar a hybarch.

Proffwydoliaeth Bleddyn.

D’wedai, agorai’r gwir-air,—
“Clyw frenin gerwin, y gair!
’R hyn ddaw, trwy fy llaw i’r llŷs,
Duw y dynged a’i dengys;
Am ennyn aer mwy na neb,
Troi a chynnal trychineb,
Gwneyd ochain yn seilfain sedd,—
Rhoi dy wersyll ar d’orsedd!
Am ddifrodi, llosgi, lladd,
Brad amlwg, a brwd ymladd;
A rhoi bro, mewn taro tynn,
I wylo am Lywelyn:—
(Iachawdwr a braich ydoedd,
Ac anadl ein cenedl oedd;)
Fel y rhoist gûr, mesur maith,
Y telir i ti eilwaith.
O! trochaist lawryf mewn trwch-waed,
Dy arlwy wrth Gonwy oedd gwaed.
Hwn geraist yn lle gwirawd,—
Bleiddiaid sy’n ffoi rhag cnoi cnawd.

Y mae maith och mam a thad,
Gwaedd a chur gweddw a chariad,—
A main lle mae ymenydd
Llawer dewr, a gollai’r dydd,—
Temlau, ac aneddau’n wag,
Yn rhoi manwl air mynag,—
I un gwrdd ddwyn gwan yn gaeth,—
Iddo gael buddugoliaeth:
Ond llion mawrion am hyn
O ddialedd a ddilyn.

“Awr na feddyli, daw’r nef ddialydd,
Dy waed oera ar dywod y Werydd;
Cydwybod Iwfr wna dwrf cyn y derfydd,
Hon a’th boena—gyrr ddrain i’th obenydd;
Caiff Brython gwirion dan gerydd—fyw’n llon,
Eu muriau’n llawnion, a marw’n llonydd.

“A gwaeth nac oll a wnaethost,
Mewn du fâr mynni dy fost,—
Gwenaist pan gwelaist galon
Wiw a phur ar waew-ffon!
Ti ddigred, ni roist ddeigryn
Yn y lle yr wylwyd llyn!
Llanwaist gron goron â gwaed,
Ac arall ŷf y gorwaed!
Clyw’n sŵn!—mwd Bercley’n seinio, [{26}]
Dychryn i’w ganlyn ac O!
Marwol loesion bron Brenin,
Tan grafangau bleiddiau blin.
Hyfryd dduwiesau Hafren,
Pan glywant a wisgant wên.

Daw blwyddau llid a bloeddiad,
Du hin, ar warthaf dy had!
Clyw! ddolefau, briwiau bron,
O’r Tŵr Gwyn [{27}] mae’r taer gwynion;
Dy hilion, mewn du alaeth,
O dan gudd, leiddiaid, yn gaeth!
A mynych gwna cromeni
Y Tŵr cras watwor eu cri:
Ni adewir o’r diwedd
Wr o dy sil ar dy sedd.