“Ha! ha! ’r dwyrain egyr ei dorau,—
Ai cwrel sydd yn lliwio cyrrau
Creigydd, moelydd, a du gymylau?
Nage, gwawrddydd glân, eirian oriau,
Wiwber anwyl sydd ar y bryniau;
Gwelwch Gymru ar fynydd golau,
A’n iach wyrion o’i chylch yn chwarau,
(Rhos sy’ o danynt ar sidanau,)
Hust! ust! ust!—mae’n dyfod i’m clustiau,
Gathl enwog oddiar ei thelynau,—
Cerddorion a Beirdd, heirdd eu hurddau,
Yn dorf bloeddiant,—‘Wi! darfu blwyddau
Yr ochain anwar a chynhennau;’—
Par y dôn i’m hyspryd innau—roi llam,
Mwy e grychneidia’m gorwych nwydau.
“Daw dyddiau mâd a diddan,
A mawr lwydd i Gymru lân;
Dyddiau bwrcaswyd iddi,
Ar dy ddichell dywell di;
O Dduw Ner daw’r hoewder hwn,
I’n Duw eilchwyl diolchwn:
Derfydd amser blyngder blin,
Curaw tymhestlog gerwin.
Daw hinon a daioni
O dy drais, na’s tybiaist ti;
Bydd cof mewn gwledd am heddyw,
A chlod am it’ fod yn fyw:
Iach amrant Lloegr a Chymru,
Daw’r ddwy-wlad mewn cariad cu;
Yna’n y ddwy mwy ni ddêl,
I’w trefi helynt rhyfel;
Un llys fydd drwy’n hynys hon,
Una’i gwyr dan un goron;
Unant nerth, rhag rhyferthwy,
Un reddf ac un ddeddf i’r ddwy;
Un Duw arnynt, un deyrnas,
Un lluoedd, un floedd, un flas:
Gwelaf Frython, [{28}]—’rwy’n llonni,
Yn eistedd ar d’orsedd di!
Ac o ystlys a gwestle,
Y gyllell hir gyll ei lle:
A o gof ymladdau gant,
Eu hing hefyd anghofiant;
Cant gyd-fwynhau breintiau braf,
Law-law i’r genedl olaf:
Lle gwelwyd twyll a galar,
Echrys boen, a chroes a bâr,—
Rhinwedd welir a hinon,
Gwenau, a bonllefau llon;
Rhyfela dry’n orfoledd,
Screchiadau yn hymnau hedd.
Ar eirian fro Eryri,
Ei chreigiau a’i hochrau hi,—
Lle mae trigfa’r bâr yn bod,
A dwyn arfau dan orfod;—
Lle gwelir llu y gelyn,
A’u bloedd hell, y blwyddau hyn,—
Anhirion elynion lu,
A’u tariannau’n terwynu;—
Anianawl serch yn ennyn,
A ffoi at y gwaew-ffyn;—
Tyf breilos, a rhos di-ri’,
Ar hon, a’r loew lili;
Eos fydd bob dydd yn dod
I fryn, yn lle cigfranod:
“Ar y llethri a’r tyli telaid,
Tybiaf y gwelaf y bugeiliaid,
Lwythau dofion, yn mhlith eu defaid,
Tarfant a chanant ffwrdd ochenaid,
Llamsach ŵyn bach yn ddibaid,—mor ddifyr,
Chwim a mygyr gylch y mamogiaid.
“Lle codwyd bwyeill cedyrn,
Bydd twmpathau chwarau chwyrn;
Dawnsio pan y darffo y dydd,
A thelyn ar frith ddolydd:
I’n hynys, pan ei hunir,
Daw tawelwch, heddwch hir;
A chywir heddwch a rhyddid
Wneir y dydd hwnnw yn aur did;
Ar wddwf Cymru rhoddir
Y gadwen hon i gadw’n hir;
Y drefn gaeth wriogaethol,
Mwya’i nerth, a i ddim yn ol;
Bydd un gyfraith, ’run rhaith rhawg,
I lwyth isel, a Th’wysawg:
Iraidd wiwlon rydd-ddeiliaid,
Ri’r gwlith, yn eu plith o’u plaid;
Colofnau y breintiau bras,
A chadarn-weilch y deyrnas;
Ar bob mater a cherydd,
Rheithwyr yn farnwyr a fydd:
’R un fro wnaeth gwyar yn frith,
O dda gynnyrch ddwg wenith;
Cod yr amaeth, cydia’i rwymau,
Cain reolau, cyn yr haulwen;
Deil waith odiaeth, dôl a thidau,
Iau a bachau lle bo ychen;
Teifl yr hadau,—llusga’r ogau,
Egyr ddorau gwâr ddaearen,
Er cael cnydiau, yn eu prydiau,
Rhag i eisiau rwygo asen.
“Esmwytho nos amaethydd,
Heddwch, diofalwch fydd,—
Y daw gelyn digwilydd
I’r berllan, na’r ydlan rydd;
Ac ni raid braw daw un dydd,
Ryw ormeswr i’r maesydd,
Neu Fodur cryf i fedi
’Nol anferth drafferth i drin:
Tybia’i wlad yn Baradwys,—
Dyry gainc wrth dorri’i gwys
A swch fuasai awchus
Gleddyf un dewr hyf di-rus;
Ymaith ar unwaith yr a,
Uwch ei boen y chwibiana.
“Ac anterth cymer gyntun,
Heb i ofal atal hun;
O hyd yn ddiwyd ddiarf
Heb fod dan orfod dwyn arf
Heb elynion o Gonwy
O fewn maes i’w hofni mwy.
“A thew ffrwyth âr
Gwnna’n gynnar;
Daw mawnog, gallt, a mynydd,
A bronydd, yn dir braenar.
“Y ddwy wlad cyd addolant,
Cyd foli’r Iôn union wnant;
Rhont glodydd i’w Dofydd da,
Law-law mewn Haleluia:
“Yna y tyf yn y tir
Bob helaeth wybodaeth bur,
O ddirgelion meithion môr,
Daear, a’i sail, hyd i’r sêr.
“Helicon pob ffynnon ffel,
Parnassus pob bryn isel:
Eu rhyfedd faner hefyd
Achuba, orchfyga fyd;
O Gressi’r maes hagr asw,
I antur lân Waterlw:
Ac y diwrnod cadarnwych
Bydd y deyrnas addas wych
Heb ei bath, heibio i bob
Un arall o fewn Ewrob;
Rheola mewn rhialyd
O begwn i begwn byd.”