Gyda bloedd, gweda Bleddyn,
“Y nefol Iôr wna fel hyn,
Foreu tawel o frad tywyll,
A llewyrcha o’r ddichell erchyll:
Molwn Dduw y Nef, gan sefyll,
Yna pawb a awn i’n pebyll.”

CERDD CALAN GWYLIEDYDD Y WYDDGRUG.

Ymysgydwch o’ch cysgadrwydd—
Yn filoedd dowch i foli Duw;
Torrodd gwawr ar flwyddyn newydd,
Gobeithiaf mai un ddedwydd yw:
Mae pob Calan fel yn gwaeddi,
A’r tymhorau bob yr un,—
Yn eu dull yn dwys bregethu—
“Derfydd dyddiau byrion dyn.”

Heddyw’m gorchwyl innau dderfydd,
Alwai’n chwaneg mo’no chwi;
Drwy fy nghylch yn bur wyliedydd
A lladmerydd y bum i;
Mi fynegwn ddull y tywydd,
P’un ai teg ai garw’r gwaith,
Fel y gwypech ar obenydd
Ai addas oedd y dydd i daith.

Do, mi wyliais gylch eich drysau
Ar ryw oerion oriau hir,
Rhag i ddynion drwg eu nwydau
Dorri eich aneddau’n wir;
Tywydd garw, mwy nag oerni,
Ni wnai nhroi oddiar fy nhaith,
A chan ofal i’ch gwas’naethu
Methais gysgu lawer gwaith.

Daeth fy ystod at ei therfyn,
Darfu’m tro oddeutu’ch tre’,
Un galenig wyf yn ofyn
Am fy llafur yn y lle;
Chwi sy’n meddu da a moddion—
Digon sy’n eich llety llawn,—
Gwnai ychydig o’ch gweddillion
DIC a’i deulu’n llawen iawn.

LLWYDD GROEG.

Awdl ar fuddugoliaethau diweddar y Groegiaid ar y Tyrciaid.

Llwydd, llwydd, fwyn arwydd, i fanerau—Groeg,
Hir rwyged ei llongau
Bob rhes o lu gormes gau,
Drwy’r moroedd draw a’r muriau.

“A llwydd gyfarwydd a fo
I’w Rhyddid, yn eu rhwyddo:
Na lanwed yn oleuni,
Cafn y Lloer [{33}] uwch cefn y lli’;
Ond isel, isel eisoes
Drwy gred ymgrymed i’r Groes.