“Dau lygad ei dad ydoedd,
Un enaid â’i enaid oedd;
Rhyw adyn ei rwydo wnaeth
A’i swynion, i gamsyniaeth,—
Un tonnawg anghytunol
Droes allan, a phagan ffol;
Ac oerodd ei holl gariad
At wir Duw,—at eiriau’i dad;
Hynny fagodd genfigen,
Yr un dydd yn ei fron denn,—
Lle cadd hen genfigen faeth,
Ddylanwodd o elyniaeth,—
Ae’n greulon, anfoddlon fab,
Fu’n wâr anwyl ireiddfab;
Y diwedd oedd—gadodd ef
Mewn gwg,—huddwg ei haddef,
Gan addaw dod, diwrnod du,
A dialedd i’w deulu;
Gwauai y dwrn,—rhegai’ dad,
O’m Duw! fath ymadawiad!
Er gwae im’, rhwygai ymaith—
Na ŵyr ond Ion ran o’i daith;
Nis gallaf, dan drymaf dro,
Ond trist ruddfanu trosto.

“O’r diwrnod bu’r du ornwaith,
Ni chenais, ni cherddais chwaith,—
Picellau drwg ofnau gant,
Y fron wirion fraenarant:
Na welir hwn, wylo’r wyf,—
Ac wylo rhag ofn gwelwyf
Etifedd gwae! tyfodd gwŷn
Diymarbed i’m herbyn;
Funud ni phrisiaf einioes,—
Aeth yn faich holl ddwthwn f’oes!
O Angeu! torra f’ingedd,
’Rwy’n barod, barod, i’m bedd.”

Eto y toddai natur
Yn ddagrau fel perlau pur;
Delwai, mudanai’r dynion,
Gyda’u brawd gwaedai eu bron;
Pwyntient fys at lys hael Iôn—
Lle o allu ellyllon.

Synnent, ac edrychent dro,
Eilwaith cymysgent wylo:
Addysgid y ddau esgob
Felly’n null cyfeillion Iob;
I ganfod fod llym gwynfawr
Bwysau ei ofidiau’n fawr.

Y Gynulleidfa.

Ar hyn d’ai gwas addas wedd,
Mynegai mewn mwyn agwedd,
Fod nifer, yr amser hyn,
Ar ddolau iraidd Alun;
A’u disgwyliad dwys gwiwlon
Am glywed clau eiriau’r Iôn.

Sychu oedd raid y llygaid llaith,
O fwriad at lafurwaith:
O’r deildy tua’r doldir
Yr elent hwy trwy lawnt hir;
A gwelent wâr, liwgar lu,
Yn gannoedd yno’n gwenu.
O ddisgwyl y ddau esgawb,
A gwyneb pur gwenai pawb,
O oedran diniweidrwydd,
Y’mlaen, hyd i saith-deg mlwydd;
Rhai ieuainc, mewn chwidr awydd
Yn chwarau ar geinciau gwydd;
Arafaidd d’ai’r gwyryfon,
Yn weddaidd, llariaidd a llon;
Oeswyr, a phwys ar eu ffyn,
Hulient dorlennydd Alun;
Doethaidd eu dull i’r dwthwn,
Eistedd wnai’r gwragedd yn grwn;
Pob mam lân a’i baban bach,
Ryw hoenus,—a rhai henach,
A geisient gael eu gosod
Dan sancteiddiol nefol nôd;
’Nawr mewn trefn, tu cefn i’r cylch,
Gan ymgau’n gain o amgylch,
Y deuai holl wrandawyr
Y graslon enwogion wyr.

Ar ddeulin yr addolynt
Yr Oen hoeliwyd, gablwyd gynt;
A Bleiddan, drwy fwynlan fodd,
Ar Dduw a hir weddiodd;
Eiddunodd newydd anian,
A mawr les, i Gymru lân;
I beri hedd, nes byrhau
Ochain hon a’i chynhennau,—
A throi i’r wir athrawiaeth
Rai’n ol, ar gyfeiliorn aeth;

Ac yna, na cha’i Morganiaeth,—na gwenwyn
O geuneint Derwyddiaeth,
Fwrw’u dilyf ar dalaeth,
Yn hwy’n lle manna a llaeth.

Bedyddio wnaent—(byd dd’ai’n wyn)
Wyr mewn oed,—rhai mân wedyn;
Yna’r sant ’nol gweini’r swydd
Ystyriol—mewn distawrwydd,
Yn ei wisgoedd wnai esgyn
I ochr llethrawg, frithawg fryn;
Ac eurmyg lleuai Garmon,
A’i dafod aur, eiriau’r Ion;
Gwrthbrofi, dynodi wnaeth
Amryw gynneiddf Morganiaeth;
Mor ffraeth ei araeth euraidd,—
Enaid a grym hyd y gwraidd;
Y llu ddaeth i gablu gwyr,
Hwy ddeuent yn weddiwyr:
Trwy’r gair llym y troir gerllaw
Annuwiolion i wylaw;
Pan felltenai Sinai serth
I gydwybod,—gwaed aberth
Wna’i fellten a fa’i wylltaf
Ddiffodd, yn hedd ffydd yn Naf;
Agorai wefus gwrel,
A’i fant a ddyferai fêl;
Drwy lawn gainc, darluniai gur
Tad a Cheidwad pechadur,—
Yr iawn a ro’es, drwy loes lem,
Croeshoeliad Oen Caersalem;
Ban dug, trwy boenau dygyn,
Fodd i Dduw faddeu i ddyn;—
Ei araeth gref am wyrth gras
Wnai un oer bron yn eirias.