Dychryn y ffoaduriaid.
Ynghanol y dduwiol ddysg,
Clywid cynnwrf, twrf terfysg;
Llefau galar gyda’r gwynt,
Sitwyr yn neshau atynt!
Ar hyn, dyna ofngar haid
O derydd ffoaduriaid,—
Lu gwael o liw—ac ael wleb,
A gwannaidd oedd pob gwyneb:
“Daeth,” dyhenent d’wedent hwy,
“Awr hyf warth a rhyferthwy;
Mae Saison, anunion wyr,
A brathawg lu y Brithwyr,
A’u miloedd dros dir Maelawr,—
Gwelsom fin y fyddin fawr!
Temlau a thai llosgai’r llu—
Nen a magwyr sy’n mygu;
Ha! erlidiant ar ledol
Y rhai ddaeth yn awr i’r ddôl;
Clywch dôn anhirion eu nâd,
Ffown, ffown! am amddiffyniad.”
Y gair, fel loes gwefrawl, a
Darfodd pob rhan o’r dyrfa;
A chwerw nod dychryniadau
Oedd yn eu gwedd hwy yn gwau;
Mewn ofnawl, ddidawl ddadwrdd,
Mynnent ymroi, ffoi i ffwrdd;
Ond Rhufon, drwy fwynlon fodd,
Un teilwng, a’u hataliodd—
Nad oedd y fyddin, erwin hynt,
Eto yn agos atynt:
Enynnodd aidd hen anian
Y milwr dewr, mal ar dân.
Milwr a Sant.
“Rhyfel!” dolefai Rhufon,
Ag araul fryd gwrol fron,
“Heddyw fy hen gleddyf hir,
I ddwyn aeth a ddyncethir;
Gwnaf wyrthiau trwy gnif erthwch—
Gwnaf weld eu llu’n llyfu’r llwch;
Codwn, arfogwn fagad
O wrol wych wyr y wlad;
A’m milwyr a’u hymwelant,
Pob gwr fydd gonc’rwr ar gant;
Wyf Rufon, er f’oer ofid,
A ddeil arf drwy dduwiol lid;
Terwyniant ein tariannau
Ni ddeil bron y gâlon gau;
Heno o’u balch lu, ni bydd
Un i leidio’n haelwydydd;
Trwy ryfel dihefelydd,
Ac enw Duw,—cawn y dydd!
Y’mlaen! pur yw’n hantur hon!”
“Arafa, danbaid Rufon!”
Eb Garmon,—“Er pob gormes
Yn fur prawf, yn farrau pres,
Mae telid gadernid Iôn
Is awyr o gylch Seion;
Ei phen a’i hamddiffynydd
Yw’r Duw sy’n Greawdwr dydd;
Ein hiawn bwys yn hyn, O bid
Ar Dduw a’i wir addewid;
A Duw a’n cyfyd ni, cofiwn,
Y diwedd o’r hadledd hwn;
“Y Duw a barai fod aberoedd
O sawr diliau, mewn cras ardaloedd,
I gynnal ei blant gannoedd,—â dwfr fal
Gwawr y grisial o graig yr oesoedd,
Ac a lywiai Iago a’i luoedd
Mawr a difraw, rhwng muriau dyfroedd,—
A Pharaoh a’i anhoff yrroedd—wnai gau
O fewn dorau y gorddyfnderoedd;
Y Duw hwnnw gyfyd hinon
Awyr dawel, o oriau duon,
Dilai gwared ei deulu gwirion
Rhag galanas a rhwyg gelynion;
Y Duw fu’n blaid Gedeon, rwystra i yrr
Yr un o’r Brithwyr wanu’r Brython.”
Trwy galon Rhufon yr aeth
Cywir donau crediniaeth;
Distawodd, lleddfodd y llu,
Eu gwelw wawr a’u galaru;
Heb ddal ynni, boddlonynt
I weision Ior hwylio’r hynt.
Hwy roddent gyfarwyddyd
Am hwyl y gorchwyl i gyd.
Ag ysgafn droed i goed gwydd,
Encilient dan y celydd;
Rhufon hoff, er mwyn cloff, claf,
Anwylaidd, safai’n olaf;
A thawel gynorthwyai
Y gweinion efryddion rai.
Yn ol dod dan gysgod gwig
I gyd, ar lawr y goedwig,
Plygent lin, ac â min mel
Yn ddwys mewn gweddi isel:
Yn ysbaid hyn, os bai twrf,
Ochenaid lesg, a chynnwrf,—
Codai Garmon lon ei law,
Agwedd Ust! ac oedd ddistaw.
Er gwersi, er gweddi’r gwyr,
Er teg osteg, ac ystyr,—
Gwael agwedd y golygon
Ddwedai fraw y ddiwad fron.