Ar hyn, dyna’n syn neshau
Athrist dwrf, a thrwst arfau;
Lwyrnych estronawl oernad,
Croch gri, a gwaeddi,—“I’r gâd”;—
Yr waedd oedd yn arwyddaw
Fod gâlon llymion gerllaw:

Yna y treigl swn eu traed,
Yn frau o fewn cyrrau’r coed,—
Lleng a’u gwich am ollwng gwaed
Gwyr o ryw hawddgara ’rioed.

Adeg alarus ydoedd,
Ac awr heb ei thebyg oedd;
Awr gerth, na ddileir o go’,
Ac awr calonnau’n curo;
Y goch ffriw aeth a’i lliw’n llwyd,
Dewr wedd ae’n orsedd arswyd.

Trwy’r ddôl y gelynol lu,
Groch anwar, wnai grechwenu,
Er dannod gwarth Prydeinwyr,—
(Rhy fuan gogan y gwyr.)

Gan ymnerth, ac un amnaid,
Yn llu yn awr, oll ’e naid
Y Brython,—yn llon eu llef,
Unllais, ac adlais cydlef,
Germain oedd, rho’i Garmon air,
Addasol ei ddewisair,—

Haleluia! Haleluia! lawen,
Ar y gair, ebrwydd y rhwygai’r wybren,
Creigiau,—a chwedi pob crug a choeden
Yn y dyspeidiad oedd yn d’aspeden;
A’r engyl yn yr angen—yn uno,—
A gawriai yno holl gôr y wiw-nen.

Chwai hyrddiwyd gâlon chwerw-ddull,
Dychrynnent, ffoent mewn ffull.

“Frithwyr ffel! beth yw’r helynt?
Dewch i gâd,—ymffrostiech gynt!
Hai! ffwrdd! codwch waewffyn,
Hwi’n golofn,—dacw’n gelyn!
Ymrestrwch,—troediwch mewn trefn,
Och! enrhaith! beth yw’ch anrhefn?”

Unwaith ni wrendy’r annuw,
I’w dilyn mae dychryn Duw;
Eu heirf serth, yn y twrf sydd,
Wana galon eu gilydd;—
Astalch i astalch estyn,
A chledd sydd yng ngledd y’nglŷn.

Clywai Alun destun da,
Alawon Haleluia;
A chiliodd dros ei cheulan,—
Hi droes lif ar draws y lan;
A mynnent hwy, er maint hon,
Yn eu braw, rwyfaw’r afon:
I dawch Alun dychwelynt,—
Aeth hon fel y Gison gynt:
A mawr dwrdd—ym merw’r donn,
Cell agerdd cylla eigion:
Gwenodd Alun, gwyn ddiluw,
Gael yno dorf gâlon Duw;
Llafuriodd y llifeiriaint,
Gyda si, i gadw y saint;
Sugnai’r llyn y gelyn gau,
Gwingodd dan grafanc Angau.